47 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ward Covid

Cafodd 47 o farwolaethau oedd yn ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn ôl y ffigyrau wythnosol diweddaraf.

Mae'n gynnydd o'r 40 o achosion yn yr wythnos gynt ble cafodd Covid ei nodi ar dystysgrif marwolaeth fel achos wnaeth gyfrannu at y farwolaeth, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Dim ond dwy sir yng Nghymru welodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â coronafeirws yn y cyfnod - Sir Fynwy a Thorfaen.

Mae'r data diweddaraf yn cynnwys achosion yr wythnos hyd at 18 Chwefror.

26 marwolaeth uniongyrchol

O'r marwolaethau oedd yn ymwneud â Covid yn y cyfnod hwnnw, roedd 55% - 26 achos - o ganlyniad uniongyrchol i'r feirws.

Mae hynny'n ganran is na misoedd diweddar - gyda'r ffigwr cyfartalog yn 87% gydol y pandemig.

Mae'r ffigwr o 26 marwolaeth oherwydd Covid ychydig yn uwch na'r nifer yr wythnos gynt, ond mae'n llawer is na'r un cyfnod yn 2021.

Yn ôl ffigyrau'r ONS, 9,696 yw nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Mae'r nifer sydd wedi marw yn uniongyrchol o'r feirws yn 8,392.

Mae'r ONS hefyd yn cofnodi'r hyn sy'n cael ei alw'n farwolaethau ychwanegol, sef y gwahaniaeth rhwng y ffigwr ar gyfer marwolaethau o bob achos, a'r nifer cyfartalog dros bum mlynedd mewn cyfnod heb bandemig.

Ers Mawrth 2020, roedd 6,090 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru na'r ffigwr cyfartalog.

Roedd y nifer yn uwch na'r cyfartaledd yn ail hanner 2021, ond mae wedi cwympo i'r cyfartaledd neu'n is yn y saith wythnos diwethaf.

Pynciau cysylltiedig