Paratoi i roi brechlyn ffliw a Covid yr un pryd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fyrddau iechyd edrych ar yr her o roi brechlyn y ffliw a Covid ar yr un pryd

Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn paratoi i roi brechlynnau ffliw a Covid i unigolion yr un pryd y gaeaf nesaf.

Wrth gyhoeddi Strategaeth Frechu Covid-19 newydd y llywodraeth, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru y byddai cynnig y ddau frechlyn ar yr un pryd yn "dipyn o gamp" ond bod byrddau iechyd wedi cael cais i edrych ar y posibilrwydd.

Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o frechiadau tymhorol fel y ffliw yn cael eu cynnig drwy wasanaethau gofal sylfaenol fel meddygon teulu tra bod y rhan fwyaf o frechlynnau Covid wedi eu rhoi drwy ganolfannau brechu torfol.

Dywedodd BMA Cymru, y gymdeithas sy'n cynrychioli meddygon, fod yna groeso i'r cyhoeddiad ond nad ydynt wedi clywed fawr ddim am y cynlluniau hyd yma.

"Bydd angen trafodaethau ar frys felly er mwyn deall beth yw gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwanwyn fel ein bod yn gallu dechrau blaenoriaethu cleifion," meddai Dr Phil White.

"Yn ddiweddarach yn y flwyddyn mi fyddai'n gwneud synnwyr i roi pigiad ffliw a brechlyn atgyfnerthu Covid i bobl ar yr un pryd, ond fel dau frechlyn gwahanol.

"Bydd meddygon teulu yn gweld y rhan fwyaf o'u cleifion bregus er mwyn rhoi pigiad ffliw iddyn nhw felly mi fyddai'r strategaeth yma yn cadw cleifion yn ddiogel ac yn cydnabod darpariaeth meddygon teulu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhan fwyaf o'r canolfannau brechu torfol yn cau

Mae'r strategaeth yn symud o ymateb brys i'r pandemig tuag at ddosbarthu'r brechlynnau Covid-19 yn yr un ffordd â rhai tymhorol eraill.

Mae Gill Richardson yn dweud y bydd y rhan fwyaf o'r canolfannau brechu mawr ledled Cymru yn cau ond y bydd nifer fechan yn aros ar agor rhag ofn y daw ton arall o Covid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 61.7% o'r boblogaeth gyfan wedi derbyn trydydd dos

Tua 1,500 o dosau atgyfnerthu y dydd sy'n cael eu dosbarthu ar y funud - hynny o gymharu â 50,000 y diwrnod yn ystod brig ton Omicron ym mis Rhagfyr.

Mae dros 61.7% o'r boblogaeth gyfan wedi derbyn trydydd dos - y bumed gyfradd orau yn y byd ar gyfer cenhedloedd â phoblogaeth dros filiwn o bobl.

Er bod ymchwil yn parhau ledled y byd sut i gyfuno brechlynnau ffliw a Covid y disgwyl yw y bydd y ddau yn cael eu rhoi ar wahân yn y dyfodol agos.

Er mwyn lleihau'r pwysau ar ofal sylfaenol fel meddygon teulu mae'r llywodraeth wedi gofyn i fyrddau iechyd edrych ar yr her o roi'r ddau ar yr un pryd.

"Rydyn ni'n gwybod y gallwch chi roi'r brechlyn ffliw a brechlyn Covid ar yr un pryd mewn gwahanol freichiau," meddai Gill Richardson.

"Rydyn ni'n ymwybodol o'r straeniau ffliw cynnar wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg yn y dwyrain - mae'r firysau hynny'n cael eu harchwilio ac mae brechlyn ffliw newydd yn cael ei ddatblygu bob blwyddyn i ddelio â hynny.

"Yn ddibynnol ar amseriad hynny, rwy'n meddwl bod modd gweinyddu y ddau frechlyn yr un pryd ac fe fyddai hynny'n ddelfrydol."

'Brechu'r henoed yn flaenoriaeth'

Mae'r strategaeth newydd hefyd yn cadarnhau mai'r flaenoriaeth fydd brechu'r henoed - y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf.

Yr wythnos hon cyhoeddodd y llywodraeth y bydd pobl fregus ac oedolion dros 75 yn cael cynnig pedwerydd pigiad Covid-19 yn y gwanwyn.

Yn ôl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) sy'n rhoi cyngor ar frechu, bydd y brechlyn yma yn rhoi amddiffyniad pellach i bobl sydd eisoes wedi derbyn tri dos.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig ac wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai a marwolaeth.

"Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi'r rhyddid a'r hyder inni ailddechrau ein bywydau yng nghanol argyfwng iechyd byd-eang parhaus.

"Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer 2022 a thu hwnt, gan gynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen frechu Covid-19 reolaidd.

"Byddwn hefyd yn cynllunio ar gyfer yr angen posibl i frechu ar raddfa fwy eto, er mwyn ymateb i don newydd o'r pandemig neu amrywiolyn newydd o'r coronafeirws."