Achos Logan Mwangi: 'Mam wedi sôn am nofio cyn clywed am afon'
- Cyhoeddwyd
Clywodd achos llofruddiaeth Logan Mwangi bod ei fam wedi dweud wrth nyrs yr "hoffwn fod wedi dysgu iddo nofio," cyn cael gwybod bod ei mab wedi'i ddarganfod yn Afon Ogwr.
Cafwyd hyd i Logan, 5, yn farw yn yr afon ym Mharc Pandy, ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr yn gynnar ar fore 31 Gorffennaf y llynedd.
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd nyrs yn yr ysbyty ble cafodd Logan ei gludo bod ei fam, Angharad Williamson yn "gwneud yn siŵr fy mod i'n gwylio" wrth ei gusanu.
Mae Ms Williamson, 30, llystad Logan, John Cole, 40 - y ddau o Sarn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr - a bachgen 14 oed na ellir ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.
Clais ar ei dalcen
Clywodd y rheithgor bod nyrs yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Rosie O'Neill, wedi mynd gyda Ms Williamson i'r ystafell ble roedd corff Logan.
Dywedodd Ms O'Neill bod Ms Williamson wedi dweud wrthi: "Hoffwn pe bawn wedi dysgu iddo sut i nofio."
Roedd hynny, meddai, cyn i'r fam gael gwybod bod Logan wedi'i ddarganfod yn Afon Ogwr.
Pan ofynnwyd iddi gan yr erlyniad, Caroline Rees QC, a oedd Ms Williamson yn annwyl tuag at Logan, atebodd Ms O'Neill: "Cyn iddi ei chusanu ar ei dalcen, edrychodd arna' i.
"Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n gwneud yn siŵr fy mod i'n gwylio."
Mae'r achos hefyd wedi clywed tystiolaeth gan blismyn wnaeth gyfarfod Ms Williamson yn yr ysbyty y bore y cafodd Logan ei ddarganfod yn yr afon.
Disgrifiodd swyddog cyswllt yr heddlu, y Ditectif Gwnstabl Clare Edwards, gleisio ar dalcen Logan - cleisio na allai ei fam Ms Williamson gofio iddo'i gael.
Dywedodd Ms Edwards fod Ms Williamson yn "wylo cryn dipyn, yn gwneud synau... ond ychydig, neu ddim dagrau".
Ychwanegodd fod yna "ddagrau gweladwy" yn achos mam Ms Williamson a ffrind oedd gyda hi.
Roedd Ms Williamson wedi dweud wrth Ms Edwards ynghynt y byddai'n gwneud "beth bynnag sydd ei angen i helpu'r heddlu ddarganfod beth ddigwyddodd i Logan".
'Ddim eisiau credu fod Logan wedi marw'
Clywodd y llys hefyd gan gydweithiwr Ms Edwards, y Ditectif Gwnstabl Clair Griffiths.
Roedd Angharad Williamson wedi dweud wrthi nad oedd hi "eisiau credu fod Logan wedi marw", ac wedi beio dynes arall "am gymryd Logan o ran malais".
Cadarnhaodd Ms Griffiths nad oedd mam Logan eisiau hebrwng ei gorff i'r marwdy.
"Roedd Angharad Williamson eisiau mynd adref, nid aros rhyw bum munud i fynd gydag e," meddai.
Yn ôl Ms Griffiths roedd Ms Williamson "mewn gofid ond heb ddagrau gwirioneddol".
Mae Angharad Williamson a'i phartner John Cole, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn gwadu llofruddiaeth Logan Mwangi.
Mae Ms Williamson a'r llanc hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â gwaed arnynt, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu.
Mae John Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022