£8m o arian cyhoeddus i brynu safle hen bwerdy

  • Cyhoeddwyd
AberddawanFfynhonnell y llun, Christopher R Ware
Disgrifiad o’r llun,

Pwerdy Aberddawan oedd pwerdy glo olaf Cymru

Fe all 5,000 o swyddi gael eu creu yn sgil cynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu hen orsaf bŵer ym Mro Morgannwg.

Fe gyhoeddodd y cwmni ynni RNW yn 2019 eu bod am roi'r gorau i gynhyrchu trydan o lo ym mhwerdy Aberddawan, ond mae'r peilonau a'r is-orsafoedd yn parhau yno.

Mae'r safle wedi cael ei brynu â £8m o arian cyhoeddus a'r disgwyl yw y bydd y datblygiad cyfan gostio £36.4m.

Ond mae maer tref gyfagos Y Barri wedi disgrifio'r cynllun fel "breuddwyd gwrach".

Mae'r prosiect wedi ei ddatblygu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, dolen allanol - corff sy'n cynrychioli 10 o gynghorau'r de ddwyrain.

Maen nhw wedi cymryd rheolaeth o'r safle 500 acer i reoli'r asedau ac yn obeithiol ei fod yn un deniadol i ddiwydiannau gwyrdd newydd.

Fe all ffatrïoedd sy'n adeiladu batris ar gyfer cerbydau trydan gael eu creu yno, yn ôl y corff. Bydd cynhyrchu trydan o egni adnewyddadwy hefyd dan ystyriaeth ynghyd â sefydlu canolfannau data.

'Ry'n ni yn y gêm'

"Mae angen bod yn uchelgeisiol, yn feiddgar," meddai Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

"Mae prynu'r safle yn golygu ein bod ni yn y gêm."

Ffynhonnell y llun, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Kellie Beirne yw cyfarwyddwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae 'na gynlluniau hefyd ar gyfer tyrbinau gwynt mawr yn y Môr Celtaidd rhwng Cymru ac Iwerddon.

Yn ôl Ms Beirne, fe all Aberddawan fod yn safle lle gall y trydan sy'n cael ei gynhyrchu yno gyrraedd y tir mawr gan ymuno a'r Grid Cenedlaethol.

"Os na fydden ni wedi cael y safle yma yna mae'n rhaid gofyn faint o botensial fyddai angen i fynd am y prosiectau mawr hynny."

Ffynhonnell y llun, Reef Group
Disgrifiad o’r llun,

Llun o sut y gallai'r ardal edrych o wireddu'r cynlluniau ar safle'r hen bwerdy glo

Mae gorsaf Aberddawan hefyd yn agos i Barc Busnes Bro Tathan - safle sy'n gartref i nifer o gwmnïau awyrennau, Aston Martin a Maes Awyr Caerdydd.

Gobaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy fod yn gyfrifol am y safle, yw y gallan nhw ddenu'n marchnadoedd ariannol i fuddsoddi.

Bydd y tir o amgylch yr orsaf bŵer, sydd wedi ei ddigomisiynu, yn cael ei drawsnewid yn barc ecoleg fioamrywiol gyda'r gwarchodfeydd natur yn cael eu hymestyn.

Mae'r Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd yn cefnogi'r syniad o gael perchnogion lleol, ond yn cwestiynu'r strategaeth o brynu'r safle.

"Be' sy'n arbennig am y lle fydd yn dod â chyflogwyr mewn?" gofynnodd.

"Mae yna dueddiad yng Nghymru o brynu ac adeiladu gyntaf ac yna poeni ynghylch be' i wneud efo nhw."

'Dim cyfle i graffu ar y cynlluniau'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maer Y Barri, Steffan Wiliam yn cwestiynu faint o "sylwedd" sydd i'r cynlluniau

Mae Maer Y Barri - y cynghorydd lleol Steffan Wiliam - yn honni nad oes "unrhyw ddemocratiaeth leol" yn sgil y penderfyniad yma ac nad yw'r cyngor wedi gallu craffu ar y cynlluniau.

"Ein job ni yw codi pryderon a chraffu hyn a gweithio mewn partneriaeth gyda phobol," meddai.

"Dwi'n berson adeiladol iawn a dwi wedi bod yn ymgyrchu dros lagoons llanw ers blynyddoedd, felly mae hwn y math o gynllun fyswn i'n ei groesawu.

"Ond allai ddim croesawu rhywbeth os mai breuddwyd gwrach yw e os nad oes unrhyw sylwedd i'r cynigion yma."

Pynciau cysylltiedig