'Canu emyn, bwyta hufen iâ a joio yng Ngheredigion'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y daith yn dechrau yn Llanbed ac yn gorffen yn Aberystwyth
Be' sy'n gyffredin rhwng Llanbed, Penparc, Blaenannerch, Llwyncelyn ac Aberystwyth? Yr ateb cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw pentrefi a threfi yng Ngheredigion ond maen nhw hefyd yn enwau tonau emynau!
Gydol ddydd Sadwrn bydd pobl mewn amrywiol leoliadau yn y sir yn canu'r emyn-dôn sydd wedi ei henwi ar ôl y lleoliad a hynny i gyfeiliant fan hufen iâ.
Mae'r cyfan wedi ei drefnu gan y berfformwraig Eddie Ladd a'r nod yw "cymdeithasu a chodi calon".
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ers sawl blwyddyn fi wedi bod eisiau mynd i lefydd a chanu'r emyn-dôn sy'n perthyn i'r lle," meddai Eddie.
"A dyma feddwl am daith - ac yna meddwl bod yn rhaid cael cerbyd i deithio i'r llefydd yma ac fe ddaeth y syniad i fi am gael fan hufen iâ sy'n rhywbeth llon ac afieithus.
"Felly y fan hufen iâ fydd yn canu'r dôn - ac fe fydd pobl yn ymgynnull ar draws Ceredigion a Chastellnewydd i ganu i gyfeiliant y fan gydol y dydd.
"Dwi wedi cael yr holl donau wedi'u recordio gan gerddor electro o'r enw Plyci - ac ers rhai wythnosau ma' corau, partïon, deuawdau ac unigolion wedi bod yn ymarfer."

Fe ddechreuodd y daith yn Llanbed fore Sadwrn
"Fe fydd y daith yn dechrau yn Llanbed yn y bore am 10:30 ac yn gorffen yn Aberystwyth am 20:00 yr hwyr.
"Fi wedi galw'r daith yn IÂS - a'r bwriad yw codi calon, creu ysgafnder. Bydd y cerbyd annynol 'ma yn dod, yn llawn pethau ffein, a be' sy' well na chanu emyn a bwyta hufen iâ ar yr un pryd? Bydd pawb sy'n canu yn cael hufen iâ.
"Fi'n gobeithio y bydd nifer o bobl yn ymuno â ni ar y ffordd a bydd modd i bobl gael clonc - rhannu profiadau efallai yn ystod y cymdeithasu.
"Mae emynau wrth gwrs yn rhan gwreiddiol o'n diwylliant ni fel Cymry a mynd am drip ysgol Sul - a chael hufen iâ yn rhan o hynny."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd Eddie Ladd ei bod wedi cael tipyn o sbort yn cynllunio'r cyfan ac wedi dysgu llawer hefyd wrth ddewis pa eiriau i'w canu.
"Mae pob lleoliad fyddwn ni'n mynd iddyn nhw wedi rhoi enw i dôn - un enw capel sy'n eu plith sef Blaencefn.
"Fi wedi dysgu lot - doeddwn i ddim yn gyfarwydd â thonau Ceinewydd na Gogerddan, er enghraifft.
"Ond yn fwy na dim mae wedi bod yn hwyl cael pobl o bob rhan o Geredigion a'r cyffiniau yn rhan o'r cyfan - ac fe fydd yn braf gweld cynulleidfa yn ymuno â ni ar y daith ddydd Sadwrn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022