Cofio Fideo 9 a'r sîn danddaearol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
I lawer sy'n cofio cerddoriaeth Gymraeg yn y 1980au a'r 1990au mae un gyfres deledu eiconig sy'n cael ei chysylltu ag elfen danddaearol y sîn ar y pryd, sef Fideo 9.
Gyda'i phen wedi ei siafio a'i steil anarchaidd roedd y cyflwynydd Eddie Ladd hefyd yn gweddu i agwedd heriol y gyfres oedd yn adlewyrchu cerddoriaeth a chelfyddyd amgen Cymru yn y cyfnod.
Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru mae rhaglenni Fideo 9 wedi eu rhyddhau ar wasanaeth Clic S4C, dolen allanol ac mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda'r cyflwynydd a'r actores am y cyfnod, y rhaglen a'r sîn gerddorol Gymraeg, ddoe a heddiw.
Mae Cymru wedi newid, meddai, ac yn sgil hynny mae hyder newydd yn y sîn gerddorol sy'n dod â hi o'r cyrion. Ond mae'n dal angen ychydig o agwedd pync 'sdim ots gen i' ar artistiaid heddiw meddai Eddie, neu Gwenith, o roi ei henw bedydd.
'Swil'
Enw llwyfan yw Eddie Ladd sydd wedi arfogi Gwenith Owen, merch fferm swil o Aberteifi, i wthio'r ffiniau yn ei gyrfa fel perfformiwr. Ar ddiwedd y 1980au daeth i Gaerdydd a chael ei dewis i gyflwyno Fideo 9.
"O'n i'n eitha shei, ond o'n i wedi cael flat top unwaith des i i Gaerdydd achos o'n i ishe gwallt newydd. O'n i ddim yn cymdeithasu'n dda iawn so oedd cael flat top yn ffordd o ymddangos heb orfod cymdeithasu.
"O'n i'n mynd i glybiau gyda ffrindiau ond 'na'i gyd o'n i'n 'neud oedd dawnsio, oedd dim lot o sgwrs 'da fi. So, fi'n falch oedd flat tops yn bod. Os wyt ti'n dawel mae pobl yn meddwl bod ti'n cŵl; ond falle mai lletchwith o'n i!"
Tir newydd
Yn ogystal â'r agwedd 'cŵl', roedd y rhaglen yn arloesol am ei bod yn gwneud fideos i fandiau Cymraeg, rhywbeth newydd ers i sianel fideos newydd MTV gychwyn yn 1981.
Dyna oedd prif fwriad y rhaglen a chyflwyno cerddoriaeth amgen y sîn danddaearol, meddai Gwenith.
"Roedd Rhys Mwyn wedi rhyddhau'r LP Cam o'r Tywyllwch ac roedd hwnna yn taro yn erbyn y drefn canol y ffordd.
"O'n i ddim yn dilyn y sîn yn y saithdegau - o'dd y bands yn ddynion ifanc gwallt hir wedi gwisgo mewn denim, a achos o'n i mor ifanc ar y pryd, o'n i ddim yn closio at y math yna o gerddoriaeth. (Ma' nhw gyd mor cŵl nawr!)
"Roedd 'na agwedd gan Fideo 9 hefyd tuag at ddiwylliant Eingl-Americanaidd. Ma 'da fi feddwl bod nhw yn trio datod y clymau 'na. Ro'n nhw'n prynu lot o fideos tramor i fewn ac roedd fideos felna oedd yn agor fy llygaid i i sut roedd pobl yn byw.
"Oedden nhw'n gwneud i ti ailystyried y bobl a'r gerddoriaeth.
"Fi'n cofio un fideo, falle o Sierra Leone neu Senegal, o fechgyn bach yn chwarae yn y môr, ffilm oedd yn gwyrdroi y ddelwedd oedd 'da ni, yn enwedig o Affrica, lle 'sech chi'n meddwl oedd yna ond ffwdan a trybini trwy'r amser. Dyna'r meddwl Eingl-Americanaidd oedd Fideo 9 yn ei herio.
"O'dd y rhaglen yn... dadgoloneiddio? Roedd y fideos yma yn dangos bod 'da nhw fywyd cyffredin hefyd, ro' nhw o bwys mawr."
Roedd y fideos Cymraeg yn gydweithrediad rhwng y cyfarwyddwyr a'r band, meddai Gwenith a hynny'n sbarduno dychymyg ac yn rhoi rhyddid i arbrofi.
"Wedi dweud hynny," meddai "mae artistiaid heddiw yn cadw i arloesi achos nawr mae nhw'n gallu creu eu cynnyrch eu hunain, ar eu telerau eu hunain, ar y cyfryngau cymdeithasol."
Cyfnod gwahanol
Gyda Chymru mewn cyfnod gwleidyddol gwahanol eto ydy ein sîn gerddorol yng Nghymru yn rhy saff neu geidwadol o'i gymharu ag yng nghyfnod Fideo 9?
"Na, fi ddim yn credu. Does 'na ddim un sîn yn unig. Mae eisie nhw i gyd. Yn y cyfnod 'na, doedd 'na ddim senedd 'da ni, doedd 'na ddim unrhyw grap ar hunan-lywodraeth 'da ni, so mewn ffordd o'n ni'n cloddio danddaear i greu hunan-barch. Nawr, mae 'da ni senedd, mae'r hunan-barch 'ma yn cael ei gymryd yn ganiataol."
Ond mae 'na heriau gwahanol heddiw, meddai.
"Falle bod ni'n atal ein hunain? Mae gymaint o fecso nawr, mae fe dros Twitter i gyd, fel tasen ni'n disgwyl y cewn ni'n clwyfo, a'n bod ni'n becso... falle fod mwy o bryder arno ni, er bod ni â mwy o afael ar bethau.
"Mae amau a brwydro, herio a chwato, y teimladau yma i gyd yn bod ar yr un pryd... a falle fod becso 'di dod i'r brig am fod 'da ni fwy o ryddid?"
Hawlio ein lle
Mae'r sîn yn yr 80au a'r 90au yn cael ei alw'n aml yn sîn danddaearol ond mae angen inni hawlio ein sefydliadau a'n diwylliant swyddogol ein hunain meddai Eddie "yn hytrach na gorfod creu sîn tanddaearol dro ar ôl tro".
"Fi ddim yn gwybod wyt ti'n gallu... byw danddaear drwy'r amser. Mae'n golygu rhywbeth os wyt ti; mae'n golygu nad wyt ti'n cael sefyll yn y bywyd sydd ohoni.
"Er enghraifft, iaith y cartref oedd Cymraeg flynydde'n ôl, iaith ymylol, nid iaith gyhoeddus. Ond ti ddim yn gallu byw yn gyhoeddus oni bai bod gyda ti ryw fath o sefydliad neu fudiad sy'n caniatáu ti i sefyll â dy draed ar lawr.
"So roedd ca'l rhaglenni 'swyddogol' pop ar y teledu, o'r 1960au ymlaen, yn beth da achos o' nhw'n dangos ein bod ni wedi hawlio lle yn y byd cyhoeddus."
Angen agwedd 'pync'
Felly oes angen sîn danddaearol neu amgen heddiw? Neu ydy'r llwyfan i fynegi ein hunain ganddon ni?
"Mae'r llwyfan gyda ni fi'n credu. Mae'r cyfryngau yna gyda ni nawr, yr offer gartre gyda ni yn ein 'stafelloedd gwely. Ma' fe yn ein gafael ni a dim ond ryw fath o ewyllys sydd eisiau wedyn - jyst meddwl, 'oce, fe allai'. Er, 'sai'n gwadu fod Facebook yn dwyn popeth a rheoli popeth chwaith.
"Ond, 'Oce, fe allai'. Dyna beth oedd orau ambyti pync: 'Dwi ddim yn gallu whare, ond fe wnâi, sdim ots da fi.'
"Felly tipyn bach o agwedd 'sdim ots da fi' sydd eisiau. 'Sdim ots da fi os oes dim ond pedwar yn y gynulleidfa... a bod nhw ddim yn lico fi! Sdim rhaid i neb lico fi!"
Hefyd o ddiddordeb: