Y Barri: Dyn yn pledio'n euog i lofruddiaeth Robert Farley

  • Cyhoeddwyd
Robert Farley, aged 61, from BarryFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed merch Robert Farley bod ei thad yn "dad, tad-cu a ffrind a oedd yn cael ei garu'n fawr"

Mae dyn 53 oed wedi pledio'n euog i lofruddiaeth ei ffrind yn ei gartref yn Y Barri y llynedd.

Cafwyd hyd i Robert 'Bobby' Farley, 61, mewn eiddo ar stryd West Walk yn ardal Colcot, Y Barri cyn 01:00 ar 3 Medi, 2021.

Roedd Heddlu De Cymru wedi ymateb i alwad 999 lle adroddwyd bod dyn yn bygwth saethu pobl.

Dywed yr heddlu fod Lee Whitlock wedi arwain swyddogion i gartref Mr Farley, gan honni eu bod yn ffrindiau ac nad oedd wedi clywed ganddo ers rhai dyddiau.

Daeth swyddogion o hyd i Mr Farley yn ei gartref wedi'i anafu'n ddifrifol, a gadarnhaodd ei fod wedi marw.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, fe blediodd Whitlock, o'r Barri, yn euog i'w lofruddiaeth.

'Dideimlad a threisgar'

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu'r De: "Roedd y llofruddiaeth hon yn ymosodiad dideimlad a threisgar ar ddyn tawel a hoffus a oedd yn cael ei garu'n fawr gan ei deulu.

"Mae'n amlwg i mi o'r dystiolaeth a gasglwyd gennym fod Whitlock yn unigolyn treisgar nad yw wedi dangos unrhyw edifeirwch o gwbl am ei weithredoedd.

"Rwy'n argyhoeddedig bod ei gyfaddefiad yn gwneud cyhoedd Y Barri a de Cymru yn fwy diogel."

Dywedodd Kim Farley, chwaer Robert: "Roedd Bobby yn dad a brawd tyner a chariadus yr ydym yn gweld ei eisiau'n fawr.

"Mae'r ple euog hwn yn dod â synnwyr mawr o ryddhad i ni ac yn ein hatal rhag gorfod mynd trwy drawma ofnadwy achos llys."

Bydd Lee Whitlock yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig