Darganfod corff wrth chwilio am fenyw sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
RitaFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae corff wedi cael ei ddarganfod wrth i'r heddlu chwilio am ddynes 96 oed o Aberhonddu.

Does neb wedi gweld Rita, nad ydy'r heddlu yn cyhoeddi ei chyfenw, ers 26 Chwefror.

Fe wnaeth ei diflaniad sbarduno ymgyrch "helaeth" i ddod o hyd iddi hi.

Dywed Heddlu Dyfed Powys bod y corff wedi ei ddarganfod ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd y llu eu bod wedi rhoi gwybod i deulu Rita, a'u bod yn cael eu cefnogi.

Pynciau cysylltiedig