Ateb y Galw: Menna Medi
- Cyhoeddwyd

Menna Medi sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Geraint Jones yr wythnos diwethaf.
Daw Menna o Lanuwchllyn yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Groeslon, Dyffryn Nantlle. Mae wedi gweithio efo Radio Cymru, Sain a bellach mae'n gweithio i Heno a Prynhawn Da. Mae hefyd wedi ysgrifennu dwy nofel.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pan yn bedair oed, mynd i siop Cambrian, Y Bala efo Mam a gweld fy llun mewn drych, mynd allan a dychwelyd mewn chydig a gweld fy hun eto a deud, "Ti'n dal yma'r diawl bach?!"
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ga i ddewis o leia cant plis? Mae pob achlysur yn unigryw ar y foment, pob gwylie yn ddiddorol a phob cyfeddach efo'i stori. Roedd noson yn Llundain tra'n ffilmio rhaglen am Iolo Morganwg yn gofiadwy - wel, tan cael gormod o win, cysgu wrth droed y gwely a chodi'n hwyr i weithio ar Fryn y Briallu.
Roedd noson mewn Plygain yn Llanerfyl yn hyfryd efo gloddest wedyn fel petaem yn ôl yn y Canol Oesoedd. A dyne i chi'r noson mewn bwyty Lithuaniaidd yn Almerimar a chael croesawu'r flwyddyn newydd dair gwaith. Ac ambell i benwythnos rygbi a steddfod a sioe a Gŵyl Ban, Cnapan, Gŵyl Werin, Pen Draw'r Byd a'r Nant, Ascot, Smithfield, Cannes, tripie sgio. Fedra i fynd ymlaen ac ymlaen ...
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hen ferch brysur.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae'n anodd dewis gan i mi deithio i bob rhan o'r wlad efo ngwaith heb sôn am fynychu gwylie cerddorol, sioeau, steddfode, teithiau cerdded neu ar holides. Ond mae bob amser yn braf cael mynd am sbin o Gynllwyd i Gowarch gan hel atgofion, neu fynd lawr i Ddinas Dinlle i hel pricie.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Gwenu neu wrido? Tra'n actio efo Cwmni'r Fuwch Goch yng Nghlwb Ifor nes i anghofio'r leins oedd yn dechre'r ddrama a gorfod gweiddi mewn cymeriad "Helpwch fi, dwi'm yn gwbod be i neud!" Mi ddoth Gareth Traws o rwle fel fy ngŵr, ac mi ddoth pob dim yn ôl a doedd neb callach.
Dro arall, yng ngŵyl ddrama Pontrhydfendigaid efo Licris Olsorts doedd peiriant caset y cynhyrchydd BJ ddim yn gweithio (eto) ac roedd angen sŵn teliffon - a gorfod i mi weiddi "dring dring, dring dring" o'r llwyfan.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Iolo Morganwg - rebel gwladgarol. Pam? Falle fyswn i'n cael ail-fyw'r noson honno ar y gwin yn Llundain a chael mewnwelediad i'w fyd o o ben Bryn y Briallu.

Pe bai Menna yn gallu cael diod gydag unrhyw un, byddai'n dewis Iolo Morgannwg, gwydriad o win ar ben Bryn y Briallu bosib?
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Chwarae efo Bethan Tanbwlch tua 12 oed, a dechre g'neud fy musnes i bot jam pan ddoth Tada rownd y gornel wrth i mi ddeud "Dwisho cach....". A dyne'r tro hwnnw pan o'n i'n teithio ar drên efo Nia a dyn barfog efo llygaid meinion o'n blaen. "Sbia golwg y diawl ar hwn," mynte fi, a'r dyn yn holi "O lle da chi'n dod genod?" Ros i mhen i lawr i gogio cysgu.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes mae'n siŵr. Ond os nad ydio'n effeithio ar neb arall, be' 'di o bwys?
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Diolch am a gafwyd. Efo glasied o jin pinc neu win coch mwy na thebyg - wel mae isio cadw traddodiad tan y funud ola'n does?

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mae tair awr yn amser hir i wylio ffilm, felly fydda i ddim yn mynd i sinema'n amal a weles i erioed Netflix, ond mi nes i fwynhau 'Belfast' gan mai hanes pobol go iawn oedd o. Wrandawes i erioed ar bodlediad. Mae digon o bethe eraill i'w gwneud fel gwrando ar ein gilydd a phicio heibio hwn a'r llall am sgwrs.
Mae pob llyfr yn ddiddorol ar y pryd boed yn nofel, ffeithiol neu farddoniaeth. Mae gwasanaeth llyfrgell teithiol wedi bod yn wych dros y cyfnod clo, a nes i dderbyn llyfre na fyddwn fel arall wedi eu dewis. Diolch Bob! Dwi newydd orffen nofel dditectif Alun Davies ac un Aled Hughes, a dwi ar ganol hunangofiannau sydd wedi eu cyhoeddi ers tro byd sef un Stifyn Parri a Heulwen Haf.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn ddiweddar iawn - mae creulondeb at blant a sgil effeithiau rhyfeloedd yn dorcalonnus.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae genna i lygad ddiog, ac yn wyth oed ges i lawdriniaeth i'w sythu, ond dwi'n dal yn cock-eyed pan dwi 'di blino. O ie, dwi'n gallu chwislo'n uchel hefyd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dwi'n cynnwys dau lun sydd yr un mor bwysig - ochor Mam a theulu Perthyfelin, Cywarch - a dyma fi efo saith o fy mrodyr a chwiorydd, cyfnither a Taid. Yna, rhieni Tada ac wyth o'i frodyr a'i chwiorydd ynte o deulu Nanthir, Cynllwyd.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Iolo Morganwg - i gael mynd efo Menna Medi am win bach i ben Bryn y Briallu.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Tomas MacAodhbhui o Swydd Waterford, Iwerddon.