Cyngor Powys yn rhoi sêl bendith i gau ysgol fach 300 oed

  • Cyhoeddwyd
ysgol Llanbedr
Disgrifiad o’r llun,

Mae 52 o ddisgyblion yn Ysgol Llanbedr, sydd i gau ym mis Awst

Bydd ysgol gynradd yn ne Powys yn cau ym mis Awst ar ôl i gais dderbyn sêl bendith cabinet y cyngor sir.

Cafodd Ysgol Llanbedr ger Crucywel - sydd â 52 o ddisgyblion - ei sefydlu bron i 300 mlynedd yn ôl yn 1728.

Mae'n un o sawl ysgol gynradd wledig sydd o dan gynlluniau ailwampio addysg yr awdurdod lleol.

Mae'r cyngor yn bwriadu adeiladu ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd ar gost o £10.2m yn lle'r adeilad presennol yn Ysgol Gynradd Pontsenni, gyda lle i 150 o ddisgyblion.

Byddai 65% o'r arian yn dod gan Lywodraeth Cymru, a'r cyngor fyddai'n ariannu'r 35% sy'n weddill. Bydd y cynllun nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Yn y cyfamser, dywed y cyngor y cafwyd bron i 350 o wrthwynebiadau i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr.

Y llynedd, fe rybuddiodd rhieni sydd â phlant yn yr ysgol y byddan nhw'n mynd â'r cyngor i'r llys pe bai'n penderfynu ei chau.

Ond ddydd Mawrth fe gymeradwyodd y cabinet gynnig i gau'r ysgol ar 31 Awst 2022.

Mae pryderon fod nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, meddai'r cyngor, ac mae'r ganran fesul disgybl o'r gyllideb i'r rheiny yn uwch na chyfartaledd Powys i ysgolion cynradd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ysgol Llanbedr ei sefydlu bron i 300 mlynedd yn ôl yn 1728

"Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn," meddai'r Cynghorydd Phyl Davies, yr aelod cabinet ar gyfer addysg.

"Nid yn unig y mae wedi bod yn destun her sylweddol gan uwch-arweinwyr y cyngor ar bob cam o'r ffordd, ond fe'i ddatblygwyd er budd y dysgwyr sydd wedi bod ar flaen ein trafodaethau a'n penderfyniadau."

Ychwanegodd: "Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn wireddu hyn trwy gyflwyno ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

"Mae gennym strategaeth uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl a haeddiannol i'n dysgwyr.

"Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau rhoi'r strategaeth ar waith, byddwn yn wynebu rhai penderfyniadau anodd wrth i ni geisio mynd i'r afael â rhai heriau sy'n wynebu addysg ym Mhowys sy'n cynnwys canran uchel o ysgolion bach yn y sir, nifer y disgyblion yn syrthio a nifer fawr o lefydd gwag."

'Buddsoddiad sylweddol'

Ar y cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd, dywedodd y Cyng Davies: "Fel rhan o Weledigaeth 2025, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o'r radd orau.

"Yn ein barn ni, nid yn unig y bydd y cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd Pontsenni'n dangos yr ymrwymiad hwn ond byddwn yn darparu cyfleusterau haeddiannol i'r plant.

"Rwy wrth fy modd bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r Achos Amlinellol Strategol.

"Os bydd Llywodraeth Cymru'n ei gymeradwyo, bydd yn fuddsoddiad sylweddol arall yn ein seilwaith ysgolion."

Pynciau cysylltiedig