Wcráin: Diogelwch wedi'r ddihangfa - ond ble nesaf?
- Cyhoeddwyd
Mae ein gohebydd Siôn Pennar wedi bod ar ffin Gwlad Pwyl ag Wcráin wrth i filoedd geisio dianc rhag ymosodiadau Rwsia.
Parhau i gynyddu mae nifer y ffoaduriaid wrth i'r rhyfel ffyrnigo. Dyma ei argraffiadau o'r hyn a welodd.
Diogelwch wedi'r ddihangfa - ond ble nesaf?
Dyna'r cwestiwn i nifer o'r ffoaduriaid yng ngorsaf drenau Przemyśl, dinas fach o 60,000, sydd heddiw yn gartref dros dro i lawer mwy.
Yng nghynteddau'r orsaf roedd cannoedd o bobl wedi dod o hyd i gornel i gael cwsg.
Roedd wynebau rhai yn dweud y cyfan, a gwewyr dyddiau o deithio yn y rhychau dan eu llygaid. Ond roedd plant bach yn gwenu ar gamerâu ac yn chwarae 'efo ceir smalio yng nghanol popeth.
'Beth nesaf? Dwi ddim yn gwybod'
Dwi wedi bod yn cadw golwg agos ar y ffigyrau swyddogol wrth i mi deithio drwy Wlad Pwyl yn gohebu ar yr argyfwng. Ond dydy ffigwr ddim yn dweud llawer yn y diwedd - hanesion pobl sy'n adrodd y stori.
Pobl fel Elina, dynes ifanc o ddinas Zaporizhzhia, oedd wedi ffoi a chyrraedd Gwlad Pwyl trwy'r groesfan ym Medyka, rhyw 10km i'r dwyrain o Przemyśl.
Roedd hi'n cydio'n dynn mewn cwpan o gawl cynnes, ac wrth ei thraed roedd ganddi fagiau a chath mewn caets.
"Dwi wedi colli popeth mewn ychydig ddyddiau," meddai, â'r dagrau'n dechrau cronni. "Fy ffrindiau, fy nheulu, fy musnes - popeth.
"Beth nesaf? Dwi ddim yn gwybod. Ond dwi'n gobeithio y bydd y sefyllfa'n cael ei datrys ac y bydda' i'n gallu dychwelyd i'm gwlad cyn gynted â phosib.
"Dwi'n caru fy ngwlad, dwi'n caru fy mhobl, a dwi'n gobeithio y bydd popeth yn cael ei sortio."
Mae'r rhyfel wedi cynhyrfu cymdeithas Gwlad Pwyl, a dydy hynny'n ddim syndod. Mae bron pawb yma yn adnabod rhywun o Wcráin, gan fod mwy na miliwn ohonyn nhw yn byw yma'n barod, yn bennaf am resymau economaidd.
Yn y gorsafoedd, ger y ffiniau, yn y dinasoedd, mae miloedd o bobl yn gwirfoddoli i gefnogi'r ymdrech ddyngarol.
Mi ddywedodd un dyn wrtha' i ei fod wedi teithio o Kołobrzeg yng ngogledd-orllewin Pwyl i Przemyśl rhag ofn bod 'na rywun yno sydd angen lifft. Mae Kołobrzeg tua 10 awr i ffwrdd.
Ochr yn ochr â hynny mae'r dicter.
Roedd protest nos Sadwrn tu allan i lysgenhadaeth Rwsia yn Warsaw yn gryndod o regfeydd a llafarganu, a goleuadau glas faniau'r heddlu'n goleuo wyneb gwyn yr adeilad sy'n gartref i gynrychiolwyr y Kremlin.
Mewn digwyddiad tawelach yn Przemyśl, plant ysgolion lleol oedd yn dangos eu lliwiau, yn cynnig geiriau a gweddi dros eu cymdogion.
Yn gwrando oedd Jozefa, oedd newydd ffoi yma o Wcráin. Fe gafodd hi ei magu mewn teulu Pwylaidd yn ardal Lviv. Roedd hi'n fwy na hapus i siarad 'efo mi, yn falch o gael dweud ei stori.
"Bore cyntaf y brwydro mi wnes i gasglu'r plant a dod at berthnasau yn fan hyn," meddai.
"Mi gymerodd hi 12 awr i ni groesi'r ffin. 'Dan ni'n byw yn agos i Wlad Pwyl ac fe gyrhaeddom ni'r groesfan yn sydyn, ond roedd yn rhaid aros 12 awr. Ro'n ni wedi rhewi'n gorn."
Gobeithio dychwelyd adref i fod "gyda'r bobl sy'n agos inni" mae Jozefa, ac mae nifer o'r ffoaduriaid o Wcráin yn cadw llygaid barcud ar y datblygiadau wrth geisio trefnu i ble awn nhw nesaf.
Mewn canolfan groeso yn Warsaw, ges i gyfle i siarad ag Alona ac Oleg. Roedd y ddau wedi dianc o Zhytomyr, dinas tua 100 milltir i'r gorllewin o Kyiv, ond wedi gadael anwyliaid ar eu holau.
Roedd gŵr Alona wedi codi arf i frwydro dros ei wlad. Roedd mab Oleg wedi dychwelyd i'r fyddin am y trydydd tro ac wedi mynd i ardal Luhansk.
Gyda dagrau'n powlio, dywedodd Alona mai ei phryder mwyaf oedd na welai ei gŵr eto.
Eiliadau'n ddiweddarach, daeth llond bws o ffoaduriaid i'r ganolfan, i gael llety dros dro, tamaid i fwyta, a chyngor am yr hyn sydd i ddod.
Unigolion a theuluoedd o wledydd yn Affrica, yn bennaf, oedd y rhain - tramorwyr yn byw, gweithio ac astudio yn Wcráin.
Yn eu canol oedd gwirfoddolwr egnïol yn bloeddio mewn Ffrangeg. Ei enw oedd Ricki Lion.
Roedd yn dod o Congo yn wreiddiol, ond yn byw yng Ngwlad Pwyl ers dros 20 mlynedd, ac roedd ei sgiliau ieithyddol yn ddefnyddiol i roi pobl ar ben ffordd.
Nid dim ond cydymdeimlad gyda'r ffoaduriaid oedd yn ei ysgogi, ond profiad personol.
"Ro'n i mewn sefyllfa debyg pan oedd rhyfel yn Congo, a daeth pobl i'm helpu i bryd hynny," meddai.
"Mi ddywedon nhw [y ffoaduriaid] wrtha' i am y bomio ar y ffordd yma. 'Dan ni'n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni."
'Mae pawb yn ceisio gwneud rhywbeth'
Mae hwn yn argyfwng rhyngwladol - ac mae'r ffoaduriaid yn amrywiol eu cefndir.
Fesul trên, roedd poblogaeth gorsaf Przemyśl yn newid. Gwagio a llenwi. Ac mewn un cornel oedd Irina, dynes ifanc mewn het felen.
Roedd hi wedi ffoi Kyiv ddyddiau yn ôl. Cymerodd 18 awr iddi gyrraedd Lviv mewn car, a naw awr arall ar drên o fanno i Przemyśl.
Aeth gwirfoddolwyr â hi ymlaen i Kraków wedyn i aros gyda'i ffrindiau. Ond roedd hi wedi penderfynu dod yn ôl i Przemyśl i helpu pobl eraill sy'n ffoi.
"Dwi'n mynd i aros yma am o leiaf pythefnos gan fod 'na gymaint i'w wneud yma," meddai.
"Mae Wcreiniaid sydd wedi gadael y wlad, neu oedd dramor yn barod, neu sydd dal yn Wcráin, yn gweithio'n galed.
"Mae pawb yn ceisio gwneud rhywbeth i ennill y rhyfel yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022