Ateb y Galw: Tomás Mac Aodhbhuí
- Cyhoeddwyd
Tomás Mac Aodhbhuí sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Menna Medi yr wythnos diwethaf.
Saer coed sydd wedi hanner ymddeol yw Tomás Mac Aodhbhuí o Swydd Kilkenny, Iwerddon. Mae'n byw yn agos iawn i ddinas Waterford. Mae ei enw yn cyfieithu i'r Gymraeg fel Twm ap Huw Aur. Mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1997 ac mae wedi gwneud sawl cwrs yn Nant Gwrtheyrn. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn Gwyddeleg yn y byd cyfoes ac mae'n hoff o nofio a cherdded mynyddoedd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Edrych ar fy nhaid yn y gwely, ac yna dweud wrth fy nghymydog oedd yr un oed a fi, "Dyna fy nhaid". Mi wnaeth fy nhaid farw dri mis cyn fy mhenblwydd yn bedair, felly mae'n rhaid fy mod i'n dair mlwydd oed ar y pryd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un o'r nosweithiau o ganu " Sean Nós" (Hen naws) yn yr ardal Gwyddeleg An Rinn (Y Penrhyn) yn Sir Waterford. Dw i wedi mynychu sawl sesiwn fel 'na mewn tafarndai, ond dw i am enwi yr un yn Tigh An Cheoil. Basai'r rhan fwyaf o'r caneuon yn y Wyddeleg.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Tawel, swil, penderfynol.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberdaron. 'Dw i'n cofio y tro cynta' es i yna yn y flwyddyn 2000 ar daith o Nant Gwrtheyrn, lle'r o'n i'n 'neud cwrs. Mi oedd cymaint o bethau hyfryd mewn pentre mor fach, y bont ar y tro yn y ffordd, hudolaeth y Gegin Fawr, Eglwys Sant Hywyn, cael peint yn Nhŷ Newydd wrth edrych allan ar y môr. Pan 'dw i'n mynd i Gymru am wythnos 'dw i'n dal fy hun yn gyrru lawr i Aberdaron pob dydd, hyd yn oed wrth aros mor bell a Llanllyfni. Byddai'r wythnos yn mynd heibio mor gyflym, byddai'n rhaid i fi ymestyn fy arhosiad i ddeg diwrnod, i gael gyfle i ymweld a llefydd eraill.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Llawer o bethau doniol iawn wedi digwydd yn fy ngwaith fel saer coed. Un sy'n dod i'r meddwl, o'r cyfnod pan o'n i'n gweithio efo'r un adeiladwr am ddeng mlynedd rhwng 16 a 26 mlwydd oed. Dim ots pa mor galed baswn i'n gweithio, mi fydda' fo'n cwyno nad oedd digon wedi cael ei 'neud, gan ein bod ni'n cael ein talu bob wythnos. Mi oedd o'n cael llawer o waith gan urddau crefyddol ac mi oedd o'n arbenigwr ar ddelio efo'r offeiriaid a'r lleianod, yn tynnu'i het ac yn ymgrymu yn barchus wrth iddyn nhw ddod i mewn.
Un diwrnod tra'n gweithio mewn cartref offeiriaid o'n i'n torri haearn efo angle grinder pan ddaeth y bos i mewn, a hwyl ddrwg arno. Mi oedd o'n sefyll drosta fi ac yn gweiddi dros y sŵn am nad o'n i wedi gwneud digon o waith. Do'n i ddim yn hapus, ond yn rhy dawel i ateb yn ôl. Ond mi nes i droi'r angle grinder er mwyn i'r gwreichion losgi ei drowsus.
Newydd orffen, pwy ddaeth i mewn tu ôl i'r bos ond y prif offeiriad, a'r bos yn dal i gwyno. Ond wrth weld yr offeiriad mi dynnodd ei het ac ymgrymu. "Does 'na ddim pwynt ymgrymu yn barchus i fi rwan Mr Bos," dywedodd yn offeiriad, "Mi glywes i ti yn gweiddi ac yn rhegi ar y dyn ifanc yna. Bob tro 'dwi'n mynd hebio mae o'n gweithio a neb yma i checkio arno fo."
Tawelwch! I mewn i'r fan aeth y bos heb dweud dim, ac i ffwrdd a fo.
Pam nes i aros efo'r cwmni yna mor hir? Mi oedden nhw yn talu pob wythnos, a doedd dim rhaid gofyn am yr arian. Dydi pethau dim fel yna rwan!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael grŵp, oedd yn canu ac yn chwarae, i'r pedwar ola' yn Iwerddon yn y gystadleuaeth Slogadh (sy'n hybu Gwyddeleg trwy gerddoriaeth ymysg pobl ifanc), ac yna cymysgu dyddiadau'r ffeinal. O'n i wedi meddwl mai ar y seithfed o Ebrill oedd o, ac wedi trefnu'r bws i gasglu'r pump yn y grŵp ar y bore yna. Ond wrth sicrhau fod popeth yn iawn ar gyfer y trip i Ddulyn ar y noson cyn i ni fynd, mi weles i ei fod wedi cael ei gynnal ar y diwrnod yna, y chweched o Ebrill.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Chwarter canrif yn ôl o'n i'n darllen llyfr "Fiche Bliain ag Fás" (Ugain Mlynedd yn Tyfu), am fywyd ar yr Ynysoedd Blasket, 3 milltir o arfodir Sir Kerry. Mi oedd yr awdur wedi gadael yr ynys i fynd i weithio yn Nulyn pan oedd o'n 18 mlwydd oed. Pan ddychwelodd ddwy flynedd yn ddiweddarach, mi oedd llawer o'r bobl wedi gadael am Yr Amerig, ac roedd glaswellt yn tyfu ar y llwybrau. Ychydig o flynyddoedd yn hwyrach yn 1953 'naeth pawb oedd ar ôl gadael am y tir mawr.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Torri ar draws pobl sy'n siarad, pan mae'r testun yn ddiddorol i fi.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Llyfr gan y Tad pabyddol o Conamara, Pádraig Standún, sy' wedi sgwennu sawl nofel yn y Wyddeleg yn ymwneud ag agweddau cul Yr Eglwys Gatholig. Yr un cynta, "Súil le Breith" (Yn Disgwyl Geni) 'naeth yr argraff mwya' arna' i. Mae'r wraig sy'n gofalu am dŷ yr offeiriad yn feichiog, ac mae'r esgob yn rhoi'r bai ar yr offeiriad.
Rhag ofn fy mod i'n enwi gormod o bethau yn y Wyddeleg, mae Smóc Gron Bach, gan y diweddar Eurig Wyn yn ail agos iawn; am ei fod yn ofnadwy o dda, ac am fod y stori yn atgoffa fi o sawl agwedd o fywyd yn yr ardaloedd Gwyddeleg (Y Gaeltacht) yn Iwerddon hefyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Fy nhad, 'naeth farw pan o'n i'n 11 mlwydd oed, felly ches i ddim cyfle i'w 'nabod o fel oedolyn. Dim ond cof plentyn sy' gen i ohono fo.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae'n chwarter canrif union ers i fi dechrau dysgu Cymraeg, a does bron neb yma yn Iwerddon (ar wahan i'r teulu sy'n byw efo fi) yn gwybod eto; hyd yn oed fy ffrindiau a pherthnasau agos.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd ar pub crawl o gwmpas Pen Llŷn (ar ôl dechrau yn Nhafarn y Plu yn Llanystumdwy). A darfod wrth edrych ar greigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun sy'n enghraifft o'r prosiect dw i'n gweithio arno fo yn wirfoddol, dau fore pob penwythnos, ers y diwrnod cyntaf o'r ganrif yma. Mae cant ac ugain o gerrig fel 'na wedi cael eu adeiladu o gwmpas ein plwyf ni yn ne Sir Kilkenny. Yn y blynyddoedd cyntaf o'n i'n cael cymorth gan bobl eraill i adeiladu tua saith deg ohonyn nhw. Ond o'n i'n gwybod na fyddai'r brwdfrydedd yn parhau; a dwi wedi adeiladu yr hanner cant olaf fy hun dros y pymtheg mlynedd diwethaf. Er mai saer coed ydw i, dw i'n meddwl fy mod i'n gwella ar y gwaith cerrig; ond does neb wedi gofyn i fi i 'neud gwaith cerrig sy'n talu eto!
Y syniad tu ôl i'r prosiect ydi hyrwyddo yr enwau Gwyddeleg. Maen nhw wedi cael eu hadeiladu ar ffin pob trefgordd (rhanbarth o blwyf). Mae o gwmpas 40 trefgordd yn ein plwyf ni, ac mae'r trefgordd yn dal yn rhanbarth pwysig cyfreithiol yma yn Iwerddon. Ystyr y ddau le yn y llun yma ydi: Bwlch Nico a Cae'r Dryw.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Steve Eaves (a chael aelodau'r band hefyd) er mwyn gallu canu a chwarae fel fo. A chael cyfle ar y diwrnod yna i recordio yr un fath o ganeuon yn y Wyddeleg. Mae mwy na digon o ganeuon traddodiadol yn y Wyddeleg, a chanu traddodiadol ydi'r unig genre dw i'n gallu trio. Ond yn anffoddus mae'r sîn caneuon blues, pop, roc etc. mor bell tu ôl i'r Gymraeg.