Ateb y Galw: Judith Musker Turner
- Cyhoeddwyd
Mae Judith Musker Turner yn fardd ac arlunydd tecstilau sy'n byw yn ardal Machynlleth.
Yn wreiddiol o Ffair Rhos, Ceredigion, graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn 2019. Mae hi'n aelod o'r casgliad TAIR, sy'n artistiaid preswyl O'r Mynydd i'r Môr, ac wedi perfformio gyda'r grŵp barddol Cywion Cranogwen.
Mae hi wedi cyhoeddi cerddi yn Y Stamp a Barddas ac yn aelod o dîm Talwrn Y Gwenoliaid. Arddangosodd ei gwaith celf yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn Suns Europe, gŵyl ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Udine yn yr Eidal.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un dwi'n gallu rhoi dyddiad arno yw pan aeth fy nheulu ar wyliau i Madeira pan o'n i'n tua dwy flwydd oed, ac mae atgof eglur iawn 'da fi o ddal madfall ar y wal tu allan i'r gwesty.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Symudais nôl i'r canolbarth yn ddiweddar ar ôl byw yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd a dwi'n teimlo synnwyr dwfn o foddhad a pherthyn o fod yn ôl yn yr ardal lle cefais fy magu. Dwi ddim yn gallu dewis un lle penodol - mae'r holl dirwedd rhwng mynyddoedd Elenydd a Bae Ceredigion yn bwysig i mi ac wedi siapio fy nghymeriad a byd-olwg.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un noson dwi'n cofio fel noson wych oedd Calan yn headlineio Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2019. Dyna oedd y tro cyntaf i mi wylio fy chwaer, Shelley, yn canu'r delyn gyda'r band, ac roedd y dorf yn anhygoel. Aethon ni allan wedyn ac roedd y dre'n llawn pobl yn jamio tan yr oriau mân - roedd hi cymaint o hwyl a dwi'n methu aros i fedru mynd i'r ŵyl blwyddyn nesa, gobeithio.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Roedd fy ffrind a finnau'n obsessed gyda Elvis pan oedden ni'n pymtheg oed, ac roedden ni'n cael marathon ffilmiau Elvis yn ei thŷ hi. Roedd hi'n tua 3 o gloch y bore pan gerddodd ei chath i mewn, syllu ar y teledu, ac wedyn chwydu dros y llawr i gyd - yn sicr roedd hi'n ein barnu ni am ein dewision ffilm.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae'n llawer rhy hawdd i godi cywilydd arnaf a dwi eisiau bod yn fwy digywilydd! Ond un peth o fy mhlentyndod sy'n dal yn fy ngwneud i wingo yw pan aeth fy mam â fi i wers dawns am y tro cyntaf fel syrpréis ar ôl ysgol, a wnes i wrthod mynd i mewn oherwydd roedd rhaid i mi wisgo crys t a siorts ac roedd pawb arall mewn twtw. Dwi'n dal yn teimlo'n euog am fod mor anniolchgar - a dwi byth wedi cael cyfle arall i ddysgu i ddawnsio!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos diwethaf, wrth wylio 'Help' ar Sianel 4, sef drama gyda Jodie Comer a Stephen Graham. Mae'n bortread ingol, pwerus o fywyd mewn cartref gofal yn ystod misoedd cynnar Covid-19, ac yn atgoffad pwysig i'r rhai ohonom nad oedd yn weithwyr allweddol o'r trawma aeth cymaint o bobl trwyddo'r llynedd.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hoff o wnïo.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Procrastinatio!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi wedi symud i ffwrdd o'r syniad o gael hoff lyfr, ond llyfr sy'n sefyll allan yn fy meddwl yn ddiweddar yw cyfrol barddoniaeth gyntaf Rufus Mufasa, Flashbacks and Flowers. Mae'n egniol, pwerus, amrwd, onest, lliwgar - jyst fel perfformiadau Rufus.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Ada Lovelace, y rhaglennydd cyfrifiaduron cyntaf. Roedd hi'n hynod ddeallus ac mae ei dull o gyfuno barddoniaeth a gwyddoniaeth yn cyfateb i'r hyn sydd fy ngyrru i i greu.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n synaesthete, sy'n meddwl fy mod i'n gweld geiriau, rhifau a phobl fel lliwiau.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i weld fy chwaer a rhoi cwtch mawr iddi.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Cerdyn post o'r V&A o hologram Alexander McQueen o Kate Moss o'i sioe Widows of Culloden yn 2006, sydd un o'r eiliadau gorau yn hanes ffasiwn, yn fy marn i! Dwi'n cadw fe ar y wal yn fy stiwdio, ac mae'n wastad yn fy ysbrydoli i.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
James Joyce - 'swn i wrth fy modd yn cael y cyfle i fod y tu mewn i'w ben.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Shelley Musker Turner.