Manic Street Preachers i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach
- Cyhoeddwyd
Bydd y Manic Street Preachers yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach am y tro cyntaf erioed fel rhan o Ŵyl BBC Radio 6 Music yng Nghaerdydd.
Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i weld un o fandiau roc enwocaf Cymru yn perfformio ar ddydd Iau 31 Mawrth, gyda'r gig hefyd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar 6 Music a BBC Radio Wales.
Cynhelir Gŵyl 6 Music ar draws sawl lleoliad yn y brifddinas, gan gynnwys perfformiadau byw a setiau DJ yn ogystal â sesiynau holi ac ateb.
Dywedodd Camilla Pia, comisiynydd cynorthwyol 6 Music a chynhyrchydd yr ŵyl: "Mae'r Manic Street Preachers yn adnabyddus am eu perfformiadau byw anhygoel a thrawiadol.
"Rydyn ni wedi arfer eu gwylio nhw'n chwarae mewn arenâu, felly rydw i wrth fy modd eu bod nhw'n rhoi'r cyfle i'n gwrandawyr fod yn rhan o'r hyn sy'n argyhoeddi i fod yn gig arbennig a phersonol iawn yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o Ŵyl 6 Music.
"Yn ôl y sôn, roedden nhw i fod i chwarae yno'n gynnar yn eu gyrfa ond wnaethon nhw ddim. Mae 6 Music yn falch o fod yn rhan o'r stori o wireddu hyn o'r diwedd."
Mae 75 pâr o docynnau am ddim ar gael, ble byddant yn cael eu dyrannu ar hap drwy Wasanaethau Cynulleidfa BBC Studios.
Mae modd gwneud cais am docyn yma, gyda'r dyddiau cau ddydd Sul, 20 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020