Ymosodiad Clydach: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn 37 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 68 oed yng Nghlydach, Abertawe, dros y penwythnos.

Mae disgwyl i Daniel Harrison ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Iau.

Cafodd y dyn 68 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i'w wyneb yn yr ymosodiad, ble mae'n parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Fe gafodd Mr Harrison ei arestio wedi i'r heddlu apelio am wybodaeth er mwyn ei ganfod.

Dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.