Diwedd 'cyfnod heriol' i Brif Weithredwr Cyngor Môn

  • Cyhoeddwyd
Annwen Morgan

Wedi dwy flynedd a hanner wrth y llyw, mi fydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Annwen Morgan, yn ymddeol o'i swydd ddydd Iau.

Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod o arwain fe ddywedodd bod y pandemig wedi golygu penderfyniadau anodd a heriau enfawr i awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Er hynny, fe ddywedodd bod y pandemig wedi gwella'r berthynas rhwng Llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd gan fynnu bod hi'n "bwysig" i hynny barhau wedi'r etholiadau lleol ym mis Mai.

Ychwanegodd bod toriadau cyllidebau a chynni ariannol wedi creu amodau anodd i rai trigolion yr ynys.

Mae gyrfa'r Prif Weithredwr yn ymestyn ar draws 38 o flynyddoedd a hithau gynt yn athrawes Gymraeg ac yn gyn Ddiprwy Brif Weithredwr y Cyngor.

Fe olynodd hi Dr Gwynne Jones gan gymryd yr awenau ym mis Hydref 2019, ychydig fisoedd cyn dechrau'r pandemig.

"Mae o wedi bod yn gyfnod heriol", meddai.

"Mae o wedi golygu gweithio yn fwy gwydn fel tîm, gweithio hefo partneriaid a chytuno ar y blaenoriaethau. Mi oedd rhaid blaenoriaethu ambell wasanaeth."

'Gweld gwerth mewn llywodraeth leol'

Wrth drafod y partneriaethau newydd a gafodd eu sefydlu yn ystod y pandemig dywedodd bod y berthynas gyda gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi gwella o achos Covid-19.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd hynny yn parhau", meddai.

"Mi oedd na gyfarfodydd dyddiol a dwi'n meddwl fy mod i'n gywir i ddweud bod pobl wedi gweld gwerth mewn llywodraeth leol a'r hyn allwn ni gynnig a'i gyflawni, a'r pwysigrwydd i gymuned leol".

Er hynny mae Cyngor Môn, fel nifer o awdurdodau lleol, wedi profi cyfnod o gynni ariannol.

Ers 2013 mae'r cyngor wedi gorfod gwneud arbedion o £25m a'r cyngor wedi bod yn gweithredu ar tua 75% o'r cyllid yr oedd angen oherwydd hynny.

"Torrwyd cyllideb cynllunio 20%, Hamdden 50%, Gwasanaeth Ieuenctid 29% a Llyfrgelloedd a diwylliant 15%, ac yn naturiol mae hyn yn cael effaith.

"Yn ogystal â'r toriad yna, mi oeddan ni hefyd yn gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau fel rhai plant".

Dywedodd Annwen Morgan bod cyllidebau gwell gan Lywodraeth Cymru rŵan yn golygu bod modd buddsoddi mewn gwasanaethau am y tro cyntaf ers 2013.

Mae derbyn beirniadaeth, bron â bod i'w ddisgwyl mewn swydd o broffil uchel a'r Prif Weithredwr yn cydnabod hynny.

"Swni'n an-onest yn dweud nad ydy o'n [cael effaith]".

"Dwi'n byw ac mae fy nheulu ym Môn ac mae gan bawb eu barn yn does ond mae rhaid blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau anodd a hynny er lles hirdymor trigolion yr ynys - dydi o byth yn hawdd".

'Gwersi buddiol i'r dyfodol'

Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod o wasanaethu, dywedodd y Prif Weithredwr ei bod hi mwyaf balch o ymateb yr awdurdod i'r pandemig.

"Dwi'n falch," meddai, "i arwain ar y cyd efo aelodau etholedig a holl staff y cyngor, nid fi yn bersonol, ond ymateb y cyngor i'r pandemig.

"A da ni'n gadael Ynys Môn, y cyngor, efo gwersi buddiol i'r dyfodol".

Mi fydd y Dirprwy Brif Weithredwr, Dylan Williams rŵan yn cymryd yr awenau fel Prif Weithredwr Cyngor Môn.

Pynciau cysylltiedig