Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn yn ymddeol
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Annwen Morgan, wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymddeol ym Mawrth 2022.
Mae Ms Morgan wedi bod yn gweithio ers 38 mlynedd i'r cyngor - fel athrawes, pennaeth ysgol ac yna mewn llywodraeth leol.
Dywedodd: "Ym mis Mai 2022, bydd trigolion Ynys Môn yn pleidleisio am Gyngor Sir newydd i'w cynrychioli am y bum mlynedd nesaf.
"Credaf mai nawr yw'r amser priodol i benodi Prif Weithredwr newydd, fydd yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Gwaith newydd ac aelodau etholedig, er mwyn symud yr Awdurdod ymlaen."
Wedi ei geni a'i magu ar Ynys Môn dywedodd Ms Morgan ei bod wedi bod yn "fraint cael gweithio ar ran ei chymunedau a'i phobl" ond mae hi'n cydnabod bod y ddwy flynedd olaf wedi bod yn anodd ac yn diolch i "dîm o uwch swyddogion a staff hynod ymroddedig a phroffesiynol".
"Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos i ni gyd pa mor werthfawr yw bywyd - ac na allwn gymryd ein teulu, ffrindiau a'n hiechyd yn ganiataol. Rwyf yn wir edrych ymlaen cael treulio llawer mwy o amser gyda fy nheulu a fy nau ŵyr ifanc."
Dechreuodd Annwen ei gyrfa ym 1983 fel athrawes Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Daeth yn bennaeth yr Adran Gymraeg ym 1994 ac yn bennaeth ar yr ysgol yn 2007.
Cafodd ei phenodi yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref 2019, wedi tair blynedd yn gweithio fel Prif Weithredwr Cynorthwyol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, "Mae ymroddiad ac arweiniad Annwen yn ystod y pandemig Coronafeirws wedi bod yn amhrisiadwy.
"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf yma, heb os, wedi bod yn heriol dros ben, ond gall gymryd balchder mawr yn y rôl mae hi wedi chwarae yn amddiffyn iechyd a diogelwch cymunedau lleol a thrigolion."
Dywedodd llefarydd y bydd "pwyllgor penodiadau'r cyngor sir yn cychwyn ar y broses o benodi prif weithredwr newydd maes o law".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2019
- Cyhoeddwyd22 Awst 2019
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019