Galw am ymchwiliad cyhoeddus i drafferthion uned fasgwlar

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Mae galwad am ymchwiliad cyhoeddus i'r trafferthion cynyddol yn uned fasgwlar y gogledd, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cleifion yn gorfod teithio i Lerpwl am driniaeth arbenigol oherwydd trafferthion staffio.

Gwnaed y penderfyniad hwnnw ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddatgelu eu bod yn ymchwilio i ddau ddigwyddiad a beryglodd ddiogelwch cleifion yn ddiweddar.

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Aelod Senedd Arfon, Sian Gwenllian, bod "yr holl sefyllfa wedi bod yn un sy'n llawn o droeon helbulus iawn o'r cychwyn cyntaf".

Mae angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod yn gwbl dryloyw os ydynt am adfer ffydd y cyhoedd, meddai.

Ychwanegodd: "Mae 'na gymaint o benderfyniadau gwael wedi cael eu cymryd ers iddyn nhw chwalu'r uned ardderchog oedd ym Mangor, felly er mwyn dysgu gwersi ac adfer ffydd y cyhoedd dwi'n meddwl ei bod hi'n amser cael ymchwiliad cyhoeddus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y digwyddiadau diweddar yn "bryderus iawn" ond bod y gefnogaeth gan rwydwaith fasgwlar Lerpwl yn "galonogol".

Perygl i gleifion

Yn Ebrill 2019 fe gafodd y gwasanaeth fasgwlar - sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed - ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag israddio'n digwydd yn ysbytai Gwynedd a Maelor.

Ers hynny, mae safon a diogelwch y gwasanaethau wedi'u beirniadu mewn adroddiad damniol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon oedd yn dweud fod perygl i gleifion sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Mae'r gwasanaethau wedi'u dynodi fel rhai sydd "angen gwelliant sylweddol" gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi "rhybudd terfynol" i'r bwrdd iechyd.

Wrth gyfeirio at y ddau "ddigwyddiad diogelwch" dywedodd Sian Gwenllian bod "pobl y gogledd angen gwybod beth yn union ydy natur y ddau ddigwyddiad yma".

"Dwi wedi gweld un honiad fod y ddau ddigwyddiad yma'n rhai difrifol iawn, iawn, ac mae angen i'r bwrdd esbonio beth yn union sydd wedi digwydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i ganoli'r gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd wedi profi'n un dadleuol

Dywedodd y bwrdd iechyd nos Fercher eu bod yn rhagweld y bydd angen i tua phedair triniaeth frys pob wythnos gael eu cynnal mewn ysbyty yn Lerpwl yn hytrach na Glan Clwyd, a hynny am gyfnod o bedair wythnos.

Bydd apwyntiadau tua 50 o gleifion yn cael eu gohirio hefyd.

"Ry'n ni ar hyn o bryd yn profi trafferthion capasiti staffio ac yn y broses o recriwtio i fynd i'r afael â hyn," meddai llefarydd.

"Tra'n bod ni'n parhau i benodi arbenigedd ychwanegol i gryfhau ein tîm, bydd nifer fach iawn o achosion fasgwlar cymhleth yn derbyn gofal arbenigol iawn gan ein cydweithwyr yn rhwydwaith fasgwlar Lerpwl."

Ychwanegodd y bydd y trefniant mewn lle am bedair wythnos i ddechrau, cyn cael ei adolygu. Ond dywedodd y bydd mwyafrif y gwasanaethau'n parhau fel yr arfer.

'Dau ddigwyddiad pryderus'

Yn yr un datganiad, fe ddywedodd llefarydd fod "dau ddigwyddiad diogelwch pryderus [wedi bod] yn yr uned fasgwlar" yn ddiweddar.

"Ry'n ni'n ymchwilio i'r rhain i sicrhau ein bod yn dysgu ohonyn nhw i wella'r gwasanaeth ry'n ni'n darparu ar gyfer ein cleifion," meddai.

Fe ychwanegodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod yn cyflwyno'r argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Mae cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin bellach yn adrodd i'r Gweinidog Iechyd bob mis am sut y mae'r gwasanaethau'n datblygu, yn sgil y "rhybudd terfynol" fis diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n bryderus iawn am y digwyddiadau diweddar hyn ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn glir fod angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r trafferthion gwasanaethau hyn yn syth.

"Mae'n galonogol bod cefnogaeth yn cael ei gynnig gan rwydwaith fasgwlar Lerpwl ac mae hyn yn dod mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Gwenllian eisiau gweld mesurau arbennig yn cael eu gosod ar y bwrdd iechyd

Cyfeiriodd Sian Gwenllian at y rhybudd terfynol a roddwyd i'r bwrdd iechyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, oedd yn rhoi tri mis iddynt wella neu wynebu mesurau pellach.

"Ychydig wythnosau i mewn i'r cyfnod yna a dyma fwy o newyddion difrifol iawn yn dod i'r amlwg," meddai.

"Yn sicr mae angen mynd gam ymhellach rŵan, a hynny'n syth, a chyhoeddi lefel uwch o ymyrraeth sef cyflwyno'r mesurau arbennig uchaf posib.

"Dwi'n dweud hynny oherwydd mai hynny, gobeithio, fydd yn prysuro'r adferiad - dyna lle mae'n pwyslais ni angen bod.

"Mae angen troi pob carreg i adfer y gwasanaeth i un sydd yn ddiogel ac mae'n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd ac i'r gweinidog iechyd.

"Dydi o ddim digon da bod pobl o'r ardal yma yn gorfod teithio i Lerpwl - mi fydd 'na driniaethau'n cael eu hoedi; mi fydd tua 50 o apwyntiadau i glinigau'n cael eu gohirio.

"Dwi'n cytuno, mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch ac mae'n gwneud synnwyr - yn y tymor byr - fod 'na driniaethau'n mynd i Lerpwl, ond mae'n rhaid iddo fod yn symudiad dros dro."