Cannoedd yn mynychu angladd Dai Jones yn Llanilar
- Cyhoeddwyd
Fe ddaeth cannoedd i angladd y cyflwynydd poblogaidd Dai Jones yn Llanilar brynhawn Sadwrn.
Bu farw wedi gwaeledd ddechrau mis Mawrth yn 78 oed.
Ers ei farwolaeth mae teyrngedau lu wedi'u rhoi iddo - ac yntau yn gyflwynydd poblogaidd ac yn ffermwr o fri.
Ar brynhawn braf o wanwyn cynhaliwyd yr angladd yng Nghapel Carmel, Llanilar, yng ngofal y Parchedig John Gwilym Jones.
Ymhlith y rhai a fu'n rhoi teyrngedau roedd Charles Arch, Huw Tudor a Beti Griffiths, cyfeillion oes iddo.
Wrth roi teyrnged iddo ar ddydd ei farwolaeth dywedodd Beti Griffiths, a fu hefyd yn bennaeth Ysgol Gynradd Llanilar, bod Dai yn "gyfathrebwr penigamp" a bod ganddo wastad amser i siarad yng nghanol ei brysurdeb.
"Roedd e'n un o fil," ychwanegodd.
Disgrifiwyd ef gan Huw Tudor fel "ffrind i bawb, gwir Dywysog Cymru a chefn gwlad".
Fel rhan o drefn y gwasanaeth fe gyhoeddwyd Englyn gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.
"Dai'r ardal hyd y dalar, - Dai â'i lais
"Hyd y wlad, Dai'r cymar,
"Dai frenin ei werin wâr...
"Llawn o hwyl yw Llanilar."
Oes o wasanaeth
Daeth nifer o anrhydeddau i Dai Jones yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol, yr MBE ac ef oedd Llywydd y Sioe Frenhinol yn 2010 pan oedd Sir Ceredigion yn ei noddi.
Yn 2004 enillodd Dai Jones wobr BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu yng Nghymru ac yn 1970 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman fe wnaeth ennill cystadleuaeth y Rhuban Glas ac yntau ond yn 26 oed.
Roedd Dai Jones hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid rhyngwladol.
Yn Llundain y ganwyd Dai Jones ac fe symudodd i Gymru yn blentyn at berthnasau iddo yn Llangwyryfon, Ceredigion.
Roedd gan ei rieni, y ddau yn enedigol o Geredigion, fusnes laeth yn ardal Holloway.
Ond doedd y Dai ifanc ddim yn hoff o fywyd y ddinas ac wedi un gwyliau yn Llangwyryfon fe benderfynodd aros gydag ewythr a modryb a pheidio mynd yn ôl i Lundain.
Yn Llanilar y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
Mae'n gadael gweddw, Olwen, ac un ma ,John.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020