Ateb y Galw: Arwel Roberts
- Cyhoeddwyd

Arwel Roberts gyda'i wraig, Awen: cafodd y ddau ei hanrhydeddu gan dref Rhuddlan gyda thlws Aelwyn Morgan am eu gwaith dros gyfnod Arwel fel maer yn ystod y pandemig
Arwel Roberts, prif drefnydd Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd, sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Tomás Mac Aodhbhuí.
Wedi ei eni yn Llanberis, Gwynedd, a'i fagu yng Nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin, mae'r cyn athro a phrifathro yn Ysgol Glan Morfa, Abergele, bellach yn byw yn Rhuddlan, Sir Ddinbych, gyda'i wraig Awen. Mae'n gyn faer y dref ac yn gynghorydd tref a sir.
Cafodd y llys-enw 'Arwel Ceibo' oherwydd ei arferiad ers yn llanc ifanc i holi pobl "Sut mae'n ceibo?".

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Teithio lawr o Llanberis, Gwynedd am y De - fy rhieni a fy mrawd mawr yn dechrau byw yng Nghapel Iwan ger Castell Newydd Emlyn, Sir Caerfyrddin. Minnau yn ddwy a hanner oed.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fy mhriodas.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymdeithasol, pwrpasol, meddylgar.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn Brenig ar Fynydd Hiraethog rhwng Conwy a Dinbych - hoff le Arwel Roberts yng Nghymru lle mae'n cael mwynhau un o'i ddiddordebau pennaf - pysgota plu
Llyn Brenig - oherwydd dyna y lle rwyf wedi 'sgota pluen fwyaf. Wedi dal llawer o bysgod yno.
Yn yr Iwerddon y cefais y brithyll brown gorau.

Llun Arwel o'r 'brithyll brown gorau' a ddaliodd yn Iwerddon
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Derbyn swydd fel pennaeth ysgol yn Abergele. Roeddwn yn athro yno hefyd yn y saithdegau y ganrif gynt.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gweld y lladd dibwrpas yn yr Wcráin.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dydw i ddim yn cofio.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yfed gormod o gwrw a gwin ar brydiau. Colli fy nhymer. Rhegi.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Awst yn Anogia. Roedd yn gyffrous.

Nofel am y gwrthdaro rhwng yr Almaenwyr a'r bobl leol ar ynys Creta yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw Awst yn Anogia gan Gareth F Williams
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Gwynfor Evans. Arwr arbennig. Cefais y fraint o fod gyda'r llu oedd wedi ei hebrwng fel Aelod cyntaf Plaid Cymru i'r Senedd Brydeinig.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi fues yn chwarae rygbi tan oeddwn yn 38 oed. Wedyn pan oeddwn yn 58 yn yr Eidal.

Wedi chwarae rygbi pan oedd yn iau mae Arwel yn hoffi cadw'n heini drwy fynd ar deithiau cerdded erbyn hyn; roedd y daith yma yn ardal Llanfair Talhaearn gyda Gordon Owen, John Ffrancon, Berwyn Morris, Lloyd Jones, John Kerfoot a Moi Parri
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cysgu neu wrando ar gerddoriaeth.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o ardal yn Eryri oherwydd yno mae gwreiddiau fy rhieni.

Llun o Eryri sy'n bwysig i Arwel
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mahatma Gandhi