Cyngor Sir Ddinbych: Ffrae dros greu swydd £100,000
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gynghorwyr Sir Ddinbych wedi'u beirniadu am "beidio â darllen y gwaith papur" cyn trafod creu swydd newydd gwerth £100,000 y flwyddyn.
Roedd y cyngor yn trafod ailstrwythuro'r tîm uwch arweinyddion gan greu rôl ar gyfer trydydd gyfarwyddwr corfforaethol ar ben y ddau sy'n bodoli eisoes.
Byddai'r swydd newydd ychwanegol yn golygu tâl rhwng £107,374 a £110,670 y flwyddyn.
Fe wnaeth adroddiad argymell hysbysebu dwy swydd gyfarwyddwr corfforaethol, sef y rôl newydd ac un sydd heb ei lenwi.
Daeth y swydd yna yn wag yn sgil dyrchafiad Graham Boase yn brif weithredwr y llynedd.
Mewn cyfarfod arbennig gofynnodd Mr Boase i gynghorwyr gefnogi'r cynlluniau.
Yn ystod y cyfarfod roedd hi'n ymddangos fod hyn wedi drysu rhai cynghorwyr, gyda'r cynghorwyr Joan Butterfield a Bob Murray yn annog eu cyd-aelodau i bleidleisio dros "lenwi'r swydd wag" - tra bod y cynnig yn sôn am y swydd newydd.
"Mae'r prif weithredwr wedi gadael," meddai'r Cynghorydd Murray.
"Wnaeth Graham gymryd drosodd y swydd a rŵan mae gofyn arnon ni i lenwi'i rôl. Be ydy'r broblem?"
Ond mewn ymateb, dywedodd y cynghorydd Gwyneth Ellis ei fod yn "warth nad oedd rhai aelodau yn ymddangos eu bod wedi darllen y gwaith papur".
"Mi ddylech ddarllen yr adroddiadau cyn mynychu'r cyfarfodydd 'ma."
Aeth y cynghorydd Paul Penlington ymlaen i awgrymu dylid canslo'r cyfarfod os nad oedd aelodau yn ymwybodol o bwrpas y bleidlais.
'Argyfwng costau byw'
Un oedd yn anhapus gyda'r cynnig i greu rôl newydd oedd y cynghorydd Glen Swingler.
"'Da ni mewn argyfwng costau byw," meddai
"Rydyn ni'n mynd i gael ein beichio gyda £150,000 arall drwy greu un swydd yn unig, tra bod pobl Sir Ddinbych yn brwydro o ddydd i ddydd.
"Dwi'n gweld hyn yn wrthun y tro hwn."
Fe wnaeth Mr Boase annog cynghorwyr i gefnogi creu swydd newydd.
"Mae amseroedd anoddach o'n blaenau, dyna pam mae'n fwy priodol i fuddsoddi yn ein huwch reolwyr i sicrhau ein bod yn ffit i allu rhoi'r cyfeiriad cywir ac i wneud y penderfyniadau cywir, sy'n ymwneud â chefnogi'r rheng flaen a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i'n cymunedau."
Fe basiwyd y cynnig o 27-6.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2019
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2022