Gofyn £200,000 am gwt ar draeth Abersoch
- Cyhoeddwyd
Mae cwt ar draeth Abersoch wedi mynd ar y farchnad am bris canllaw o £200,000.
Nid oes cyflenwad trydan na dŵr i'r cyfleuster ar brif draeth y pentref ym Mhen Llŷn.
Ond gydag Abersoch yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid, a llawer o ail gartrefi yn y cyffiniau, mae cytiau o'r fath eisoes wedi gwerthu yno am £160,000.
£234,348 oedd pris gwerthu cyfartalog tŷ yng Ngwynedd yn ôl Rightmove, yn seiliedig ar ddata Cofrestrfa Tir EM.
Ond yn Abersoch roedd y pris dros dair gwaith yn uwch, sef £801,800.
Petai'r pris canllaw am y cwt yn cael ei dderbyn, mae lle i gredu y byddai'n torri'r record am werthiant un o'i fath yng Nghymru.
'Cyfle prin'
Cafodd y gwerthiant ei ddisgrifio gan y cwmni arwerthwr tai lleol, Rhys Elvins, fel "cyfle prin i gael cwt traeth mewn man lle mae galw mawr amdanynt ar brif draeth poblogaidd Abersoch".
Ond tra bod y diwydiant twristiaeth yn rhan fawr o economi'r ardal, mae pryderon ers peth amser fod y farchnad eiddo allan o ddwylo'r mwyafrif o bobl leol.
Dywedodd Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, fod Abersoch a chymunedau tebyg yn "cael eu lladd er mwyn i filiwnyddion ddangos eu hunain i'w gilydd".
"Mae miloedd o bobl ifanc yn cael eu gorfodi allan o gymunedau Pen Llŷn a rhannau eraill o ogledd Cymru oherwydd na allant fforddio cartrefi," ychwanegodd.
"Ond nid ydym yn wynebu argyfwng tai yn unig, gallem weld cwymp diwydiannau a gwasanaethau hanfodol oherwydd nid oes gennym y bobl yma i'w staffio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2021