Creu bocsys i roi 'croeso cynnes' i fabanod â Syndrom Down

  • Cyhoeddwyd
Bocs Seren Dwt
Disgrifiad o’r llun,

Mae bocsys Seren Dwt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen ar rieni newydd i blant gyda Syndrom Down

Wedi iddynt adael ysbyty gyda mwy o gwestiynau nac atebion ar ôl rhoi genedigaeth i blant gyda Syndrom Down, mae dwy fam o dde Cymru wedi creu bocsys arbennig i sicrhau na fydd yn rhaid i eraill fynd drwy brofiadau tebyg.

Er i Laura Thomas a Lou Kennedy eni eu plant mewn ysbytai mewn gwahanol wledydd, roedd y ddwy yn teimlo fod eu profiad yn debycach i brofedigaeth na genedigaeth.

A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol Syndrom Down ddydd Llun, roedd 'na groeso yn yr ysbyty cyntaf i dderbyn bocsys Seren Dwt - Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lou Kennedy fod ei phrofiad hi o eni Mya wedi ei hysgogi i helpu eraill

"Doedden ni ddim yn gwybod fod gan Mya Syndrom Down tan iddi gael ei geni," meddai Lou, o Gaerffili, mam i Finbar sy'n saith a Mya, pedair.

"Mi gefais ofal da gan ysbyty Gwent ond mi adawon ni'r ysbyty y diwrnod ar ôl iddi gael ei geni gydag amlen frown gyda thaflen ynddo oedd yn debyg i bamffled profedigaeth.

"Roedd yn ofnus gadael ysbyty gyda dim ond rhagfarnau am beth mae'n golygu i gael plentyn gyda Syndrom Down. Dim ond drwy ffrindiau y des i wybod am grwpiau cymorth ac elusennau lleol."

Mae bocsys Seren Dwt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen ar rieni newydd i blant gyda Syndrom Down, yn ogystal â bwydydd, dillad babi a theganau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Laura gyda'i merch Lumi, a'i mab Arwel

Daeth Lou a Laura i adnabod ei gilydd drwy un o'r grwpiau cymorth yn ne Cymru. Mae mab Laura, Arwel, yn dair oed.

"Roedd o'n brofiad oedd yn llethu rhywun," meddai.

"Roedd ein bywydau wedi newid a doedd ganddon ni ddim unrhyw le i droi.

"Mae bendant yn bwysig i mi ein bod yn newid y stori i rieni yn y dyfodol, fel bo' nhw ddim yn teimlo nad yw eu plentyn nhw yn cael eu dathlu o'r eiliad maen nhw'n cael eu geni."

Disgrifiad o’r llun,

Anna Griffiths o ward gofal dwys newydd-anedig Ysbyty Athrofaol Cymru yn derbyn bocs Seren Dwt gan Laura a Lou

Dywedodd Anna Griffiths, un o'r nyrsys ar ward gofal dwys newydd-anedig Ysbyty Athrofaol Cymru: "Ry'n ni'n credu fod hwn yn gyfle gwych a da' ni yn meddwl fod gweledigaeth Lou a Laura yn anhygoel.

"Mae'n syniad gwreiddiol, ond yn bwysicach na dim mae o'n gyrru neges bositif o longyfarchiadau a chroeso cynnes i'r babanod yma, ac mae'n gam ymlaen tuag at hynny."

Pynciau cysylltiedig