Gwasanaeth Tan: Gofal wrth gynnau tanau dan reolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr yn parhau i ddelio gyda nifer o danau gwair mewn gwahanol ardaloedd yn y gogledd.
Mae'r rhan fwyaf o'r tân 100,000 metr sgwâr ar lethrau Mynydd Mawr, yn Y Fron ger Caernarfon, ddydd Mercher, bellach wedi ei ddiffodd, ond roedd criw yn dal i gadw golwg yno 24 awr ar ôl yr alwad 999 gyntaf.
Ddydd Iau, roedd y gwasanaeth hefyd yn cadw golwg ar danau eraill, yn Llanbedr ger Harlech, Rhiw ym Mhen Llŷn ac yn ardal Wrecsam.
Nid yw'n glir sut ddechreuodd y tân ger Y Fron, ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhybuddio tirfeddianwyr i fod yn ofalus wrth gynnau tanau dan reolaeth i losgi grug ac eithin, drwy sicrhau bod ganddynt gynlluniau diogelwch mewn lle cyn dechrau llosgi, ac i hysbysu'r gwasanaeth ymlaen llaw o unrhyw danau yr oeddynt yn bwriadu eu cynnau.
Fe ofynnodd y gwasanaeth i bobl Y Fron, Rhosgadfan, a Rhostryfan gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau yn sgil y mwg.
Fore Iau dywedodd Jeff Hall, o Wasanaeth Tân y Gogledd, nad oedd y tân ar Mynydd Mawr - neu Mynydd 'Eliffant' fel mae'n cael ei adnabod - yn edrych cynddrwg â ddoe.
"Ond mae hynny oherwydd ein bod ni yma a bod dim haul arno, ond os na fyddwn ni yma y bore 'ma fe fyddai'n edrych yn llawer gwaeth yn ddiweddarach yn y dydd."
"Yn anffodus ni allwn nodi achos y tarddiad," meddai wrth BBC Radio Wales.
"Y tymor rydyn ni ynddo fo, mae gennym ni bobl yn trio gwneud llosgiadau rheoledig, sy'n aml yn arwain at losgiadau afreolus, sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i ni a'r trethdalwyr yn ogystal â rhoi iechyd a diogelwch y criwiau yn y fantol tra byddwn yn delio â'r rhain."
Dywedodd bod un hofrennydd ar ei ffordd i'r lleoliad i geisio diffodd gweddill y fflamau a gofynnodd eto i bobl ymddwyn yn fwy "synhwyrol".
Roedd yna hefyd bocedi o dân uwchben Nantlle ddydd Mercher, gyda thair injan yno.
Cafodd un injan yr un eu hanfon i danau llai ar Fynydd Bangor ac yn ardal Llanberis.
Mae sawl rhan o Gymru wedi gweld tanau gwair yr wythnos hon, gyda chriwiau tân yn dweud iddyn nhw gael eu "boddi" gan alwadau nos Fawrth.
Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a De yn taclo nifer o danau fore Iau, gan gynnwys ym Mrynaman Uchaf yn Rhydaman a rhwng Crughywel a Garnlydan.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn rhannau eraill o Gymru, roedd pedair injan dân yn ymateb i dân ar fynydd yng Nghaerau ger Maesteg, a thri chriw hefyd mewn tân gwair yn Rhaeadr, Powys.
Cafodd diffoddwyr hefyd eu galw i fflamau ar fynydd Preseli yn Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022