'Dechrau cyfnod newydd' i hanner marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dros 25,000 o bobl gofrestru ar gyfer yr hanner marathon
Wedi bwlch o 903 o ddyddiau, fe ddychwelodd Hanner Marathon Caerdydd i'r brifddinas ddydd Sul.
Fe wnaeth dros 25,000 o bobl o Gymru a thu hwnt gofrestru i redeg y ras 13.1 milltir o hyd gafodd ei gohirio ddwywaith yn sgil cyfyngiadau Covid-19.
Wrth i'r haul dywynnu ar y rhedwyr a'u cefnogwyr, dyma oedd y digwyddiad torfol mwyaf o'r fath yng Nghymru ers cyn y pandemig.
Dywedodd y cyn athletwr Olympaidd a chyfarwyddwr y ras Steve Brace bod ras ddydd Sul "yn ddechrau cyfnod newydd".
Ras 'arbennig'

Natasha Cockram o Gwmbran oedd enillydd ras y merched
Cymraes ddaeth i'r brig yn ras y merched am y tro cyntaf ers 2004, wrth i Natasha Cockram gwblhau'r marathon gydag amser o 1:10:47.
Llwyddodd i osod record newydd i'w hun, oedd tua dwy funud yn llai na'i hamser gorau blaenorol, wrth iddi anelu at gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.
Cyn y ras, dywedodd Cockram ei bod hi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r digwyddiad wrth iddo ddychwelyd wedi'r pandemig.

Cockram, 29, (trydydd o'r dde) sy'n dal record marathon Cymru
"Dwi'n meddwl y bydd e hyd yn oed yn fwy arbennig," meddai.
Yn dilyn ei buddugoliaeth, roedd Cockram yn edrych tua'i nod nesaf.
"Dwi wedi breuddwydio am Gemau'r Gymanwlad ers i mi fod yn ifanc iawn, felly gobeithio nawr ga' i fy newis ar gyfer hwnna."
Bronwen Owen ddaeth yn ail (1:14:04) ac Elle Twentyman wnaeth orffen yn drydydd (1:14:58).

Llwyddodd Kadar Omar i guro'i amser orau fore Sul
Kadar Omar oedd yn fuddugol yn ras y dynion, a hynny mewn 1:02:46 - gan osod record newydd i'w hun hefyd.
Y brodyr Mahamed Mahamed (1:02:52) a Zakariya Mahamed (1:04:05) o Southampton ddaeth yn ail ac yn drydydd.
Roedd y tri ar y blaen drwy gydol y ras, ond erbyn y filltir olaf Omar oedd yn arwain.
"Fy nod oedd i brofi fy hun gyda'r athletwyr gorau ac ennill, felly dwi'n hapus gyda'r fuddugoliaeth," meddai.
Fe wnaeth Omar ffoi o Ethiopia yn 13 oed, ac mae nawr yn byw yn Birmingham.
"Des i o hyd i gartref trwy chwaraeon, ac fe wnaeth chwaraeon newid fy mywyd."

Sam Kolek ddaeth i'r brif yn ras cadair olwyn y dynion
Cyn-enillwyr oedd yn fuddugol yn y rasys cadair olwyn, gyda'r nifer uchaf erioed yn cystadlu.
Sam Kolek wnaeth guro ras gadair olwyn y dynion gydag amser o 56:08, a Mel Nicholls (1:06:36) enillodd ras gadair olwyn y merched.
'Ras fwyaf emosiynol fy mywyd'

Inna Gordiienko a'i gŵr ar y linell derfyn
Roedd hi'n ras arwyddocaol i nifer, gan gynnwys Inna Gordiienko o Wcráin.
Fe wnaeth Inna ffoi o'i mamwlad gan amau bod rhyfel ar y gorwel, a gyda'r hanner marathon yn digwydd ar Sul y Mamau, dywedodd y byddai hi'n meddwl am ei mam a'i nain, sy'n dal yn Wcráin, bob cam o'r ffordd".
"Dwi'n meddwl mai dyna oedd y ras fwyaf emosiynol dwi wedi ei rhedeg yn fy mywyd," meddai ar ôl gorffen. "Doeddwn i ddim yn gallu rhedeg achos ro'n i'n crio."

Bwrlwm y linell derfyn, ger Prifysgol Caerdydd
"Pob tap ar yr ysgwydd, pob bawd i fyny, pob 'Go Wcráin!', roedd e'n teimlo fel petai'r holl fyd y tu ôl i mi."
Roedd yna funud o gymeradwyaeth ar ddechrau'r ras i ddangos cefnogaeth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin.
Bydd yr hanner marathon yn cael ei chynnal am y tro nesaf ym mis Hydref 2022.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021