Buddugoliaeth 'anhygoel' i dîm Cymru wedi cyfnod ansicr

  • Cyhoeddwyd
Dathlu cais Carys PhillipsFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru'n dathlu cais Carys Phillips

Mae Hannah Jones, canolwr tîm rygbi merched Cymru, yn falch o fuddugoliaeth "anhygoel" yn erbyn Iwerddon wedi ansicrwydd am ddyfodol y garfan.

Yn ystod pencampwriaeth Chwe Gwlad y llynedd, fe gollodd Cymru o 0-45 yn erbyn Iwerddon.

Ond mae 12 chwaraewr wedi cael cytundebau proffesiynol ers hynny, ac fe darodd tîm Ioan Cunnigham yn ôl gyda buddugoliaeth o 17-29 oddi cartref yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos.

Dywedodd Hannah Jones - sydd â chytundeb proffesiynol - fod gan y chwaraewyr fwy o amser i ymarfer gyda'i gilydd a bod hynny'n "bwysig iawn".

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Hannah Jones bod y garfan wrth eu bodd.

"Ma'r merched wedi bod yn gweithio ac yn ymarfer yn galed drwy'r wythnos, so i ennill, mae'n anhygoel. Hapus iawn.

Wrth ymateb i'r cynnydd yn safon y chwarae ers y llynedd, fe awgrymodd Hannah bod troi'n broffesiynol wedi gwneud byd o wahaniaeth, gyda'r merched yn treulio mwy o amser yn paratoi.

"Ma fe mor bwysig. Ma' mwy o amser gyda ni nawr gyda'n gilydd i ymarfer a paratoi ar gyfer gemau.

"Ni mewn yn ymarfer pump diwrnod yr wythnos, mwy o amser gyda Ioan [Cunningham], mwy o amser gyda'r chwaraewyr i nabod ein gilydd.

"Ni'n edrych mlaen i gêm yr Alban nawr. Byddwn ni mewn yn y camp fory, ac ymarfer a pharatoi ar gyfer gêm Yr Alban.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Cymru o 0-45 yn erbyn Iwerddon yn 2021, cyn i 12 o'r merched gael cytundebau proffesiynol

Wrth siarad ddydd Sadwrn, dywedodd maswr Cymru, Elinor Snowsill fod na ddathlu mawr a "theimlad o ryddhad" ar ôl y gêm.

"Roedd na lot o ddawnsio yn yr ystafell newid ar ôl y gêm, pawb yn hapus iawn - fe wnaethon ni roi Tina Turner 'Proud Mary' arno, a pawb mewn cylch yn dawnsio.

"Fel carfan, ni'n agos iawn fel ffrindiau ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth ar y cae.

"Pan y'ch chi o dan y lach fel oeddem ni yn yr hanner cyntaf, chi ddim yn panicio achos chi'n gwybod fod pawb yn cefnogi ei gilydd, a ni jest mor falch i gael y fuddugoliaeth yn y diwedd."

Wedi'r gêm ddydd Sadwrn, dywedodd Ioan Cunnigham, hyfforddwr y garfan, ei fod yn "bles iawn" â'r canlyniad.

"Clod mawr i'r merched, mae nhw wedi rhoi mewn lot o waith caled, ac yn haeddu'r fuddugoliaeth yna...

"O'n i'n bles gyda'r ffordd wnaethon ni orffen y gêm, yn dal at y strwythur a dangos y pŵer yn y blaenwyr er mwyn cael y pwyntiau yn y diwedd."

'Hyder'

Ychwanegodd bod hyder gan y garfan wrth edrych ymlaen i weddill y bencampwriaeth - ac yn enwedig ar gyfer herio'r Alban ddydd Sadwrn ar Barc yr Arfau.

"Mae'n bwysig yn seicolegol i'r chwaraewyr hyn i ddod oddi gartref a maeddu tîm da fel Iwerddon. Ni'n gallu codi hyder o hyn wrth edrych mlaen at y gêm nesa gartref, gyda'n torf ni, a ni'n edrych ymlaen at yr achlysur.

"Mae angen cadw traed ar y llawr, a dadansoddi hon [y gêm] yn fanwl a 'neud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sydd angen i wneud yn erbyn yr Alban.

"Maen nhw'n dîm da, sydd yn mynd i gwpan y byd ac yn yr un grŵp â ni, felly sialens wahanol ond neis i fod gartref ar ei chyfer hi."