Merched Cymru: 'Ni'n barod nawr am y Chwe Gwlad'
- Cyhoeddwyd
Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched eleni yn gyfle i ddangos gymaint mae'r tîm wedi "datblygu" ers i nifer o'r chwaraewyr fynd yn broffesiynol am y tro cyntaf.
Ym mis Ionawr cyhoeddwyd bod 12 o'r merched wedi cael cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru am y tro cyntaf, ac ers hynny mae 12 arall hefyd wedi arwyddo cytundebau rhan-amser.
Mae hynny wedi golygu cyfle i ymarfer yn fwy cyson fel carfan cyn eu gornest agoriadol yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.
"Mae'n mynd i fod yn sialens anferth i ni, ond un ni'n edrych 'mlaen am," meddai'r prif hyfforddwr Ioan Cunningham.
'Effaith enfawr'
I'r capten Siwan Lillicrap, un o'r dwsin sydd ar gytundeb llawn amser, mae wedi trawsnewid eu paratoadau ar gyfer y twrnament eleni yn llwyr.
"Mae wedi cael effaith enfawr ar ein bywydau ni, fel unigolion ac fel tîm," meddai.
"Mae gennyn ni amser i bondio fel tîm a gweithio ar bethau ni ddim wedi cael amser i o'r blaen. Ni'n gallu recoverio, edrych ar Iwerddon, edrych ar oppositions ni, ond hefyd edrych ar berfformiad ni yn trainio.
"Mae physical performance ni wedi bod yn well, ma' PBs trwy'r amser yn y gym, felly ni really wedi joio'r dau, dri mis diwethaf a ni'n barod nawr am y Chwe Gwlad."
'Breuddwyd'
Fe wnaeth y clo Natalia John adael ei swydd fel athrawes ffiseg yn Ysgol Maes y Gwendraeth er mwyn derbyn un arall o'r cytundebau proffesiynol.
"Ges i'r alwad just cyn i fi ddechrau dysgu Blwyddyn 8!" meddai.
"Mae hwn 'di bod yn freuddwyd i fi ers blynyddoedd, dwi 'di bod yn gweithio mor galed dros y pedair blynedd diwethaf, ac i gael yr alwad, roedd e'n no-brainer. O'dd e'n drist i adael yr ysgol, ond bydden i'n dweud wrth fy nisgyblion i fynd am e, so oedd rhaid i fi fynd amdano fe 'fyd.
"Ni 'di bod yn gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf i ddatblygu, y cyfle i weithio ar y sgiliau bach yn lle just dod mewn a gwthio popeth at ei gilydd a chwarae gêm. Fi just yn really gyffrous i fynd allan ar y cae a dangos i bawb faint ni 'di datblygu."
'Mwy o bwysau'
Mae Ioan Cunningham yn cydnabod fod y cytundebau'n golygu bod mwy o bwysau ar y tîm bellach i wella ar y canlyniadau diweddar, ond mae'n "gyffrous" am yr her.
"Y sialens yw sut ni'n gallu ymdopi gyda bach mwy o bwysau a dangos ein doniau a sgiliau dan y pwysau 'na," meddai.
"Dechreuad da, mae hwnna'n bwysig. Mae'r Chwe Gwlad i gyd am fomentwm.
"Os ni'n gallu dechrau'n dda mas yn Iwerddon, rhoi lot o'r gwaith caled ni 'di 'neud ar y cae ymarfer mewn i'r gêm, pwy a ŵyr? Ni'n dod gartref wedyn a chwarae'r Alban o flaen torf, bydd e'n wych i ni."
'Rhoi hwb i'r genod'
Yng Nghlwb Rygbi Pwllheli, mae'r merched sy'n ymarfer yno yn awyddus i weld y gamp yn datblygu a gweld y tîm cenedlaethol yn cael llwyfan ehangach.
"Dwi'n joio fo, cael dod allan i gael awyr iach, gweld pobl newydd, yn enwedig ar ôl y lockdown, " meddai Beca, 17.
Ychwanegodd Erin, 13, y byddai'n hoffi gweld gemau'r merched ar y teledu yn amlach.
"'Sa fo'n ffordd o gael pobl ifanc, mwy newydd i ddod i 'neud pethau fel rygbi, a chael y cyfle dwi 'di cael i fwynhau."
Dywedodd yr hyfforddwr Dave Martin fod gweld gêm y merched yn proffesiynoli yn ysbrydoliaeth i'r rheiny ar lawr gwlad.
"Mae'n rhoi hwb i'r genod achos mae'n rhywbeth iddyn nhw anelu tuag ato, ac mae 'na nifer o genod o'r gogledd [yn nhîm Cymru] hefyd sydd yn braf i weld."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020