'Adeg ofnadwy' wrth gau drws unig eglwys Gymraeg Canada

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Dewi Sant, CanadaFfynhonnell y llun, Eglwys Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae baner Cymru i'w gweld tu allan i Eglwys Dewi Sant yn Toronto, Canada

Mae'n ddiwedd cyfnod i aelodau Eglwys Dewi Sant, Toronto wrth i'r drysau orfod cau.

Fe ddechreuodd gwasanaethau Cymraeg yn unig eglwys Gymraeg Canada yn 1907.

Ond gyda nifer yr aelodau wedi gostwng erbyn hyn a chyflwr yr adeilad yn dirywio, roedd yn rhaid gwneud "penderfyniad anodd" i adael.

Dywedodd Hefina Phillips, sy'n aelod yno ac yn wreiddiol o Gymru, bod y gymuned "wedi bod yn galaru".

'Yr arian ddim gyda ni'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Hefina bod yr eglwys yn "mynd trwy gyfnod trist".

"Ni di bod yn galaru ers bo' ni 'di 'neud y penderfyniad," dywedodd.

"Ma' angen gwario arian, doedd dim yr arian 'na gyda ni. Mae'n aelodaeth ni wedi gostwng yn enfawr ers pryd ddes i i Ganada.

"Mae'n emosiynol mas draw, ni'n mynd trwy gyfnod eitha' trist a dweud y gwir."

Ffynhonnell y llun, Google

Pan ddaeth Hefina i Ganada dros 40 mlynedd yn ôl, dywedodd bod yr eglwys wedi bod yn help mawr iddi ymgartrefu.

"Mae'n gartref oddi cartref i fi - mae'n bwysig iawn i fi.

"Ond, mae hyd yn oed yn fwy pwysig i aelodau sy' 'di cael eu geni a'u magu yn yr eglwys."

Ym 1907 ddechreuodd y gwasanaethau, ond mewn adeilad gwahanol bryd hynny.

Dywedodd Hefina bod yr aelodaeth wedi bod yn enfawr ar hyd y ganrif ddiwethaf ôl i nifer o Gymry fudo i Ogledd America.

Ffynhonnell y llun, Eglwys Dewi Sant, Canada
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaethau Cymraeg wedi'u cynnal yn yr adeilad ym Melrose Avenue, Toronto ers dros 50 o flynyddoedd

"O'dd lot o Gymry wedi ymfudo 'nôl yn yr amser na, pawb wedi ffeindio'i gilydd.

"I ddechre, Ysgol Sul oedd 'da nhw - fi di gweld llunie' ohonyn nhw 'nôl yn yr amser na, oedd cymaint ohonyn nhw.

"Fe geson nhw le lawr yng ngwaelod y ddinas, wedyn yn 1964 dwi'n credu, fe adeiladon nhw ble y'n ni nawr ym Melrose Avenue yn Toronto a na ble ma' nhw 'di bod ers 'ny.

"Dyna'r adeilad y byddwn ni'n ffarwelio â hi."

Gwasanaethau i barhau

Ond, yn ôl Hefina, bydd cyfle i barhau â rhai oedfaon Cymraeg wrth ymuno ag eglwys arall yn yr ardal.

"Ni'n dechre meddwl am sut ni'n mynd i gynnal gwasanaethau ar ôl i ni symud.

"Mae'r eglwys y'n ni yn ymuno â hi - mae'r cyfleusterau yn wych, felly dyna beth ddenodd ni atyn nhw.

"Ni 'di cael cymaint o groeso, felly dwi'n gobeithio y gweithiff pethau mas."

Ychwanegodd Hefina y bydd digon o gyfle i'r aelodau fwynhau yng nghwmni ei gilydd cyn i'r drysau gau.

"Y'n ni ddim yn mynd i fynd mas yn dawel! Ni'n mynd i gael penwythnos ffantastig.

"Ma un o'n cyn-weinidogion ni, Cerwyn Davies o Sir Benfro, mae e'n byw yn Ontario o hyd a mae e wedi ysgrifennu nifer o benillion.... mae'n edrych ar hanes yr eglwys ers y dechre.

"Ma caneuon, mae emynau... mae'n mynd i fod yn emosiynol iawn."

Pynciau cysylltiedig