Yr ieuengaf i gael prydau ysgol am ddim o fis Medi
- Cyhoeddwyd
Bydd tua 180,000 o blant yn elwa o ymestyn prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru, yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price y bydd rhai o'r plant ieuengaf yn dechrau derbyn prydau bwyd am ddim o dan y cynllun fis Medi yma.
Dywedon nhw y byddai'r rhaglen prydau ysgol am ddim cyffredinol yn gwbl weithredol erbyn mis Medi 2024.
Mae tua £25m i'w wario ar wella cyfleusterau cegin a bwyta.
Rhoddodd Mr Drakeford a Mr Price ddiweddariad ar y rhaglen, sy'n rhan o gytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, mewn cynhadledd newyddion ar y cyd.
Bydd cynghorau lleol yn derbyn £40m mewn refeniw ychwanegol, neu gyllid o ddydd i ddydd, ar gyfer y cynllun dros y flwyddyn ariannol nesaf, ac yna £70m yn 2023-24 a £90m yn 2024-25.
Diogelwch bwyd
Dywedodd y prif weinidog: "Rydym eisiau cyrraedd cynifer o blant mor gyflym ag y gallwn ond mae ansawdd y bwyd sydd ar gael yn bwysig iawn, ac rydym wedi dysgu'n boenus yn y gorffennol yng Nghymru fod yn rhaid i ddiogelwch bwyd fod ar flaen ein meddyliau hefyd.
"Felly mae buddsoddiad cyfalaf, i gyd-fynd â'r refeniw sydd ei angen, i gyflawni'r rhan hon o'n cytundeb."
Dywedodd Mr Price y byddai ehangu mor fawr mewn prydau ysgol am ddim yn cael "effaith hynod fuddiol ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ac mewn tlodi bwyd ar hyn o bryd".
"Mewn llawer o achosion mae yna deuluoedd sydd mewn gwir angen sydd ychydig yn uwch na'r trothwy o ran cymhwyster," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y gall plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim barhau i'w derbyn drwy'r Pasg, Sulgwyn a gwyliau'r haf eleni, mesur a gyflwynwyd yn gynharach yn y pandemig.
Ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Price wrth gynhadledd wanwyn ei blaid y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru hefyd yn anelu at gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd o fewn pum mlynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022