Prydau ysgol uwchradd am ddim - addewid Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae prydau ysgol am ddim yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â thlodi plant, meddai Adam Price
Bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn anelu at gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd o fewn pum mlynedd, meddai arweinydd y blaid Adam Price.
Mae prydau am ddim eisoes yn cael eu hymestyn i bob plentyn mewn addysg gynradd, o dan gytundeb cydweithrediad Plaid gyda gweinidogion Llafur yn y Senedd.
Bydd Mr Price yn dweud wrth gynhadledd wanwyn ei blaid "byddwn yn dechrau creu Cymru sy'n rhydd o newyn a thlodi".
Plaid Cymru sy'n arwain pedwar o'r 22 cyngor Cymreig, gydag etholiadau i'w cynnal ym mis Mai.
Mae disgwyl i raglen prydau ysgol am ddim cyffredinol gwerth £200m ar gyfer disgyblion cynradd gael ei chyflwyno ym mis Medi.
'Cymru sy'n rhydd o dlodi'
Yn ei araith, ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yng Nghaerdydd, fe fydd Mr Price yn dweud bod "cael gwared ar ddyled arian cinio a chael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd poeth, iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad - all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial".

Daeth Adam Price yn arweinydd Plaid Cymru yn 2018
"Gallaf gyhoeddi heddiw mai rhan allweddol o'n harlwy yn yr ymgyrch etholiad cyngor sydd ar y gweill yw y bydd cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i osod y nod ac yn dechrau cynllunio ar unwaith i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd o fewn y pum mlynedd nesaf.
"Trwy brydau ysgol am ddim i bawb byddwn yn dechrau creu Cymru sy'n rhydd o dlodi," meddai.
Y tro diwethaf i etholiadau lleol gael eu cynnal yng Nghymru, yn 2017, cafodd Plaid Cymru enillion cymedrol, gan gynyddu ei mwyafrif yng Ngwynedd a dod yn blaid fwyaf Ynys Môn.
Yn fwy diweddar, bu siom i'r Blaid yn etholiad y Senedd y llynedd.
Dim ond 13 o'r 60 sedd a enillodd y blaid yn Senedd Cymru, a cholli etholaeth allweddol y Rhondda - sedd Leanne Wood, y fenyw y llwyddodd Mr Price i'w maeddu yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid yn 2018.

Etholiadau Lleol 2022

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021