Covid hir: 'Mam a dad yn gorfod gofalu amdana i'
- Cyhoeddwyd
Mae Sian Griffiths yn nofio o leiaf dair gwaith yr wythnos naill ai yn y môr ger ei chartref ar Ynys Môn, neu yn Llyn Padarn islaw mynyddoedd dramatig Eryri.
Ond nid yr olygfa sy'n denu Sian - ond effeithiau'r dŵr a'r oerfel, sydd meddai'n helpu clirio, am gyfnod o leiaf, rhai o effeithiau hirdymor Covid.
"Y broblem fwyaf i fi ar ôl cael Covid ydy brain fog," meddai.
"Mae'n rhyfedd - dwi ddim yn medru darllen pethe hir, dwi'n cymysgu geiriau, dwi'n anghofio cloi'r drws.
"Bob dydd rydw i'n dweud pethau sydd ddim yn gwneud synnwyr.
"Dwi'n methu gyrru yn bell hefyd - dwi'n dibynnu ar eraill. Dwi'n gorfod cael mam a dad i fod yn rhyw fath o carer i fi."
'Dwi jest eisiau mynd 'nôl i'r gwaith'
Roedd Sian yn gweithio fel ffisiotherapydd pan gafodd hi ei heintio â Covid ym mis Mai 2020.
Ychydig wedi hynny dechreuodd hi amau fod ganddi gyflwr sy'n effeithio ar guriad ei chalon - cyflwr all gael ei achosi gan Covid.
Ar ôl cael gwybod y byddai'n rhaid iddi aros misoedd lawer i weld arbenigwr yn lleol, teimlodd nad oedd ganddi ddewis ond talu i fynd i weld arbenigwr ar y galon yn Stoke.
"Roedd y meddyg teulu lleol wedi bod yn wych, ond mae'r amser sydd gyda nhw yn brin a dydyn nhw ddim yn arbenigwyr," meddai.
"Ges i wybod y byddai rhaid i fi aros amser hir i weld arbenigwr - dwi'n deall bod 'na bandemig a bo pobl yn gorfod aros, ond dwi jest eisiau mynd 'nôl i'r gwaith."
Yr ymgynghorydd yn Stoke wnaeth argymell bod Sian yn dechrau nofio.
"Efo'r cyflwr s'gen i ma' lot o bobl yn teimlo fod bod mewn dŵr yn helpu," meddai.
"Sai'n medru mynd i'r ganolfan hamdden achos bod tro dwi'n dod allan o'r dŵr mae'r stafell newid yn rhy gynnes a dwi'n llewygu.
"O fod mewn llyn neu yn y môr - dwi'n gwisgo wetsuit sy'n helpu â llif y gwaed i'r pen. Ma' pwysau ac oerfel y dŵr hefyd yn helpu i fi glirio'r brain fog.
"Dwi ddim yn berson diog o gwbl, ond dwi'n poeni beth mae pobl y pentref yn meddwl. 'Sut mae'n gallu nofio ar ôl bod bant o gwaith am ddwy flynedd?'
"Dwi'n nofio oherwydd mae'n helpu, ond dyw pobl jest ddim yn dallt fy mod i'n medru nofio ond ddim yn gallu gyrru."
Mae Sian mewn cysylltiad â'i haelod o'r Senedd, ac yn ôl Rhun Ap Iorwerth - sydd hefyd yn llefarydd iechyd Plaid Cymru - mae ei phrofiad yn tanlinellu'r angen am well cefnogaeth.
"Dwi wedi dod ar draws llawer o bobl sy'n dioddef, a ma' cyfran fawr ohonyn nhw yn weithwyr iechyd a gofal," meddai.
"Mi ddylai'r rheiny gael eu cefnogi. Dylai 'na ddim bod bygythiad i'w cyflogau nhw ac ansicrwydd.
"Mae gweithwyr iechyd a gofal wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle roedden nhw'n agored i risg, ac maen nhw'n talu'r pris am hynny.
"Ma' methu hyd yn oed cael y diagnosis a'r driniaeth ar y gwasanaeth iechyd, a gorfod talu i fynd yn breifat, yn rhwbio halen yn y briw.
"Y ffordd o sicrhau fod dysgu yn digwydd yn y ffordd fwyaf effeithiol yw bod gweithwyr iechyd yn dysgu o'i gilydd ac yn pasio arbenigedd i'w gilydd drwy grwpiau, canolfannau a thimau arbenigol.
"Nid rhywbeth yn y meddwl yw hwn - mae'n effeithio ar bobl yn gorfforol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan bwysau i sefydlu clinigau arbenigol, tebyg i rai sy'n bodoli yn Lloegr.
Y ddadl yw bod angen yr arbenigedd hwnnw gan fod Covid hir yn gallu effeithio ar waith nifer o organau'r corff.
Ond yn hytrach, mae rhaglen "Adferiad" Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddarparu cefnogaeth gan staff gofal cynradd fel meddygon teulu, nyrsys a ffisiotherapyddion.
Ar ymweliad ag un o'r timoedd hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, roedd y Gweinidog Iechyd yn awyddus i amddiffyn y drefn yng Nghymru gan fynnu bod 87% o'r unigolion sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn barod i'w argymell i eraill.
"Cael mwy o arian i ddelio â Covid hir oedd un o'r pethau cyntaf nes i fel Gweinidog Iechyd, ac mae'n amlwg o'r ymateb ry'n ni wedi cael ei fod e'n gweithio, gyda phobl i ddelio â phroblemau iechyd meddwl, deiet, yr ysgyfaint ac ati," meddai Eluned Morgan.
"Felly beth sy' gyda ni fan hyn yw ffordd i mewn i ofal eilradd.
"Felly ry'n ni'n dechre â gofal GPs ac maen nhw wedyn yn arwain pobl tuag at system fwy arbenigol os oes angen.
"Beth sy'n amlwg yw bod y mwyafrif o bobl yn gallu derbyn yr help y tu mewn i'w cymunedau nhw.
"Beth sy'n bwysig deall yw y gall rhywun sydd â phroblem ysgyfaint hefyd gael problem ar y galon. Felly i ba arbenigwr chi'n mynd i fynd?
"Dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n cael rhywun ar lefel gofal cynradd i edrych ar y person cyfan a deall sut mae'r person yn dioddef mewn sawl agwedd."
Yn siarad ddydd Mawrth, ychwanegodd nad oedd ganddi "unrhyw fwriad" i atal y cynllun, pan mae'n "glir bod cymaint o alw amdano".
Dywedodd bod dros 2,400 o bobl wedi cael diagnosis Covid-hir gan feddyg, a'r mwyafrif helaeth wedi defnyddio'r gwasanaethau adfer.
Ychwanegodd bod y nifer yn llawer is na'r rhai sydd wedi adrodd symptomau hirdymor eu hunain, "all adlewyrchu os yw pobl yn teimlo y gallant reoli'r salwch ei hunain heb gymorth clinigwyr".
'Dim digon o amser'
Ond mae Sian Griffiths yn argyhoeddedig fod clinigau mwy arbenigol yn hollbwysig.
"Dyw hi ddim yn deg gofyn i GP mewn 10 munud ddelio â lot o broblemau fel brain fog, pwyse gwaed, blinder ac yn y blaen.
"Does dim digon o amser. Mae angen clinig wedi'i arwain gan consultant. 'Dan ni angen deall beth sy'n digwydd yn y corff cyn gwneud rehab.
"Yn y pendraw dwi'n gobeithio mynd 'nôl i'r gwaith, a gobeithio meddwl yn glir eto."
Ond dyw hi ddim am roi'r gorai i'r nofio.
"Cyn Covid doeddwn i ddim yn licio dŵr oer, ond rŵan dwi wrth fy modd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021