Y Gyfrinach gan Gwenno - stori fuddugol Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwenno, enillydd categori Cyfnod Sylfaen, 5-7 oedFfynhonnell y llun, Ysgol ID Hooson
Disgrifiad o’r llun,

Gwenno, enillydd categori Cyfnod Sylfaen, 5-7 oed

Gwenno o Ysgol ID Hooson, Rhosllanerchrugog yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.

Daeth Gwenno yn fuddugol yng nghategori'r Cyfnod Sylfaen i blant rhwng 5-7 oed am ei stori dan y teitl 'Y Gyfrinach'. Y gyflwynwraig a'r awdures Mari Lovgreen oedd y beirniad ac fel gwobr i Gwenno, yr artist Leri Tecwyn sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Gwenno.

Ffynhonnell y llun, Leri Tecwyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Leri Tecwyn sydd wedi darlunio llun clawr yn wobr i Gwenno, yr awdures fuddugol

Pennod Un

Un tro roedd criw o ffrindiau yn chwarae yn hapus yn y parc. Eu henwau oedd Efa, Ava, Gwenno ac Anni ac roedden nhw'n ffrindiau mawr. Yn sydyn gwelodd Efa nodyn ar y llawr. "Beth yn y byd ydy hwn?" gofynnodd Efa. Darllenodd Efa y nodyn...

"HELP! Mae Capten Jac Ddrwg wedi creu allwedd hud i gwpwrdd dwi wedi cuddio o dan y môr. Does neb yn gwybod lle dwi wedi cuddio y cwpwrdd heblaw amdanat ti a fi. Aur ac arian sydd yn y cwpwrdd. Mae'r bobl ddrwg yn byw mewn castell crand a dydyn nhw ddim yn hoffi dŵr. Dydw i ddim yn gwybod lle maen nhw'n byw ond dwi'n gwybod eu bod nhw'n hoffi'r haul. Fedri di fy helpu i ffeindio yr allwedd ac agor y cwpwrdd cyn nhw?

Hwyl am y tro,

Capten Ben."

"O mam bach, mae'n rhaid i ni helpu Capten Ben," meddai pawb gyda'i gilydd. Hedfanodd aderyn glas del atyn nhw.

"Helô, be' sy'n bod?" gofynnodd yr aderyn. Eglurodd y genod beth oedd wedi digwydd.

"Peidiwch â phoeni, rydw i efo llwch hud i chi hedfan yn yr awyr er mwyn edrych am y castell crand," meddai'r aderyn.

"Diolch yn fawr," meddai'r genod.

"1 2 3... i ffwrdd â ni!!!" Hedfanodd y plant a'r aderyn ar draws y byd hardd OND doedd y castell crand ddim yna.

"Mae gen i gyfrinach," dywedodd yr aderyn. "Mae byd fferins ochr arall i'r cymylau ac mae'n braf iawn yna, efallai fydd y castell crand yn fan'no," meddai'r aderyn.

"Syniad da!" meddai'r plant. Hedfanodd pawb i'r cymylau.

Pennod Dau

"Waw!" meddai pawb. "Byd fferins. Dwi'n gweld castell crand o fy mlaen ac mae'n edrych fel castell Capten Jac," meddai Gwenno.

"Dwi'n meddwl mai castell Capten Jac ydy o," meddai Ava.

"Am be' rydyn ni'n aros?" meddai Efa. "I ffwrdd â ni!"

Cnoc cnoc cnoc. Cerddodd pawb i mewn i'r castell fel llygod bach "HELÔ" meddai llais mawr cryf. "Pwy ydych chi?" gofynnodd Capten Jac.

"Ga i weld yr allwedd yna?" gofynnodd yr aderyn.

"Na chei wir mae'n un sbesial iawn," meddai Capten Jac.

Gwelodd yr aderyn yr allwedd yn disgleirio mewn cawell a phigodd yr aderyn dwll yn y cawell a phigo'r allwedd allan o'r cawell.

"Wel neis cyfarfod chi, mae'n amser i ni fynd adre rŵan. Hwyl Fawr," meddai Ava gyda winc.

"Hwrê," meddai pawb. "I ffwrdd â ni i'r môr."

Pennod Tri

Hedfanodd pawb i'r môr. "Sut ydyn ni'n gwybod lle yn y môr dylen ni edrych?" gofynnodd Gwenno.

"Paid â phoeni, dwi efo ffrind sy'n byw o dan y môr," meddai'r aderyn. "Bob tyrd allan!"

"Helô Bob, wyt ti wedi gweld cwpwrdd hud?" gofynnodd yr aderyn i Bob.

"Dwi wedi gweld un mawr wrth y gwely."

Ac i ffwrdd â nhw o dan y môr. Agorodd pawb y cwpwrdd yn araf iawn. "Waw! Aur ac arian. Tybed be wnawn ni gyda rhain i gyd... hmmm?"

Ar ddydd Mercher 6 Ebrill byddwn yn cyhoeddi stori Harri, enillydd categori Cyfnod Allweddol 2a, 7-9 oed.

Hefyd o ddiddordeb: