Cyhoeddi rhaglen lawn gyntaf Gŵyl y Gelli ers 2019
- Cyhoeddwyd
Bydd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, y newyddiadurwr Lyse Doucet a'r actor Benedict Cumberbatch ymysg y rheiny fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli ym Mhowys eleni.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r ŵyl gynnal digwyddiadau wyneb i wyneb ers 2019, wedi iddi orfod symud ar-lein yn ystod y pandemig.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am y 35ain tro eleni, gyda dros 500 o ddigwyddiadau ar draws 11 diwrnod rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.
Fe fydd yr ŵyl yn casglu arian ar gyfer Apêl Ddyngarol Wcráin hefyd, gydag adran o siop lyfrau'r ŵyl yn cael ei chadw ar gyfer llenyddiaeth o Wcráin.
Bydd nifer o Gymry yn cymryd rhan, gan gynnwys y cantorion Syr Bryn Terfel, Cerys Matthews a Trystan Llŷr Griffiths, y delynores Catrin Finch, yr awduron Manon Steffan Ros a Caryl Lewis, a bardd plant Cymru Casi Wyn.
Ymysg yr actorion eraill fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni mae Minnie Driver, Sheila Hancock, Damian Lewis a Stephen Fry.
Bydd nifer o gantorion yn perfformio hefyd, gan gynnwys Corinne Bailey Rae, Jarvis Cocker, PJ Harvey a Frank Turner.
Mae rhaglen eang o gomedi hefyd, sy'n cynnwys setiau gan Bill Bailey, Nina Conti, Lenny Henry, Shazia Mirza, Reginald D Hunter, David Baddiel a Milton Jones.
Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd yn canolbwyntio ar Gymru fodern, wrth i Jon Gower a Huw Williams gyflwyno The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution.
Fel rhan o'r un gyfres bydd Hanan Issa, Grug Muse a Darrent Chetty yn cyflwyno Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales, a bydd Dylan Huw, Crystal Jeans a David Llewellyn yn siarad â Kirsti Bohata am eu casgliad newydd Queer Square Mile: Queer Short Stories From Wales.
Dywedodd cyfarwyddwr rhyngwladol Gŵyl y Gelli, Cristina Fuentes La Roche fod y trefnwyr "wrth ein boddau i fod yn casglu yn ein tref lyfrau gyda rhaglen egnïol".
"Mae hi wedi bod yn 35 mlynedd ers i 'sgrifennwyr a darllenwyr ddechrau rhannu eu straeon ym mhebyll ein gŵyl, a dydyn ni erioed wedi bod angen y straeon yma ar gymaint o frys," meddai.
Ychwanegodd dirprwy weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden ei bod yn "newyddion gwych ein bod nawr yn gweld digwyddiadau wyneb i wyneb yn dychwelyd".
"Mae rhaglen ryngwladol Gŵyl y Gelli yn unigryw yn y ffordd y mae'n canolbwyntio ar rai o'r pynciau mwyaf sy'n cael effaith ar y byd sydd ohoni," meddai.
"Tra'i bod yn arddangos talent Cymru i'r byd, mae'r fformat hybrid hefyd wedi galluogi mwy o gyfraniadau nag erioed gan y talent rhyngwladol gorau."
Mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau'r ŵyl ar gael ar ei gwefan, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020