Jade Marsh: Dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gyn-wraig

  • Cyhoeddwyd
Jade WardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Jade Marsh, a oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward, yn farw yn ei chartref fis Awst y llynedd

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gyn-wraig wythnos ar ôl iddi ddod â'u perthynas i ben.

Roedd Russell Marsh wedi gwadu llofruddio Jade Marsh yn Shotton, Sir y Fflint ym mis Awst 2021.

Cafodd Jade - a oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Ward - ei thrywanu a'i thagu tra bod eu pedwar plentyn yn cysgu yn y tŷ.

Roedd Mr Marsh wedi cyfaddef i gyhuddiad o ddynladdiad, ond yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher fe'i cafwyd yn euog o'i llofruddiaeth gan reithgor.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod yr achos roedd Russell Marsh wedi gwadu ei fod llofruddio Jade Marsh ond wedi cyfaddef ei fod wedi ei lladd

Clywodd y llys yn gynharach yn yr achos nad oedd eu pedwar mab ifanc yn gwybod eto mai Mr Marsh a laddodd eu mam yn y tŷ yn Chevrons Close.

Wrth sôn am ei deimladau am farwolaeth Ms Marsh wrth y rheithgor dywedodd: "Dwi'n teimlo'n ofnadwy am y teulu - y bechgyn a theulu Jade."

Clywodd y rheithgor ei fod, yn yr oriau cyn ei marwolaeth, wedi disgrifio clywed sŵn gwyn, fel statig, a theimlo bod angen ei hatal rhag siarad.

Dywedodd Michael Jones QC, ar ran yr erlyniad, fod Mr Marsh wedi dweud dro ar ôl tro wrth deulu a ffrindiau na allai fyw heb ei wraig.

"Daeth y diffynnydd i wybod ei bod wedi dechrau perthynas gyda dyn arall a'i bod yn ôl pob golwg wedi rhannu cusan ag ef mewn parti," ychwanegodd.

"O fewn wythnos i hyn bu farw."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd drws yr ystafell wely lle cafwyd hyd i gorff Jade wedi'i ddiogelu gyda chortyn gŵn (dressing gown)

Roedd Ms Marsh wedi cael ei thrywanu dro ar ôl tro ac wedi cael anafiadau i'w hwyneb a'i chorff cyn cael ei thagu i farwolaeth.

Fe ddigwyddodd ar ôl i Mr Marsh wneud esgus i adael ei swydd nos yn gynnar ar 26 Awst y llynedd.

Daethpwyd o hyd i'w chorff ar y gwely, wedi'i orchuddio â phentwr o ddillad a blanced.

Gyrrodd Mr Marsh y plant i dŷ ei rieni yn Saughall, Sir Gaer, cyn mynd at yr heddlu yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, gan ddweud wrth swyddogion ei fod wedi gwneud "rhywbeth drwg" i'w wraig.

Pynciau cysylltiedig