Dyn yn gwadu llofruddiaeth ei gyn-wraig a mam i bedwar
- Cyhoeddwyd

Roedd Jade Ward yn fam i bedwar o blant
Mae dyn wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio ei gyn-wraig yn Sir y Fflint.
Cafodd Russell Marsh, 29, ei gyhuddo o lofruddio Jade Ward, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Marsh, 27, yn Shotton.
Yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyswllt fideo o Garchar Berwyn, fe wnaeth Mr Marsh hefyd wadu cyhuddiad arall o ddynladdiad.
Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ym mis Mawrth.
Roedd Ms Ward yn fam i bedwar o blant, a dywedodd ei theulu y byddai'n "gwneud unrhyw beth" iddyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021