Anhrefn Mayhill: Wyth dyn yn pledio'n euog
- Cyhoeddwyd
Mae wyth dyn wedi pledio'n euog i fod yn rhan o anhrefn Mayhill yn Abertawe y llynedd.
Fe wnaeth y dynion, sydd rhwng 20 a 44 oed, gyfaddef i fod yn rhan o'r terfysg ar Heol Waun-Wen ar 20 Mai 2021.
Cafodd ceir eu llosgi a chwalwyd ffenestri ar ôl i ŵylnos i ddyn ifanc fu farw droi'n dreisgar.
Mae cyfanswm o 27 o bobl yn wynebu cyhuddiadau o droseddau mewn cysylltiad â'r anhrefn.
Yn Llys y Goron Abertawe, fe wnaeth y dynion canlynol bledio'n euog i fod yn rhan o reiat:
William Smolden, 24
Michael Parsons, 37
Jahanzaib Malik, 21
Dean Price, 40
Tyrone Langan, 27
Ryan Sarsfield, 25
Paul Jones, 44
Ryan Owen, 20
Nid ydy'r dynion wedi eu dedfrydu eto.
Fe wnaeth dau ddyn arall wadu cymryd rhan yn yr anrhefn - plediodd Kian Hurley, 23, a Kye Dennis, 24 yn ddieuog.
Mae disgwyl i 12 o bobl eraill ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe yr wythnos hon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022