Anhrefn Mayhill: 27 yn wynebu cyhuddiadau
- Cyhoeddwyd

Cafodd tân ei gynnau mewn car a chafodd ffenestri eu torri ar 20 Mai
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod 27 o bobl yn wynebu cyhuddiadau o droseddau mewn cysylltiad ag anhrefn Mayhill, Abertawe ym mis Mai y llynedd.
Daw hyn ar ôl i'r heddlu ymddiheuro i drigolion ym mis Ionawr ymddiheuro i drigolion ym mis Ionawr am fethu "gweithredu'n ddigon cyflym" yn ystod y terfysg ar Heol Waun-Wen ar 20 Mai 2021.
Cafodd ceir eu llosgi a chwalwyd ffenestri yn ardal Mayhill ar ôl i ŵylnos i ddyn ifanc fu farw droi'n dreisgar.
Cafodd cyfanswm o 46 o bobl eu harestio yn dilyn yr anhrefn.
Ddydd Mercher, fe ddywedodd yr heddlu bod y 27 o bobl sy'n wynebu cyhuddiadau rhwng 15 a 44 oed.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â throseddau terfysg [riot] ac mae dau ddiffynnydd yn wynebu cyhuddiadau o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu fod yn ddi-hid ynghylch a fyddai bywyd rhywun arall yn cael ei beryglu.

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Trudi Meyrick, rheolwr plismona Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot: "Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan dditectifs lleol, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron [CPS] wedi derbyn tystiolaeth yn erbyn yr unigolion hyn.
"Yn dilyn ystyriaeth fanwl gan y CPS, maent wedi caniatáu cyhuddiadau o derfysg a llosgi bwriadol gyda bwriad i beryglu bywyd."
Ychwanegodd y Prif Uwcharolygydd bod y tîm ymchwilio wedi ymrwymo i ymchwilio'r anhrefn yn drylwyr a bydd y broses yn parhau dan y system gyfiawnder.
Mae disgwyl i'r 27 sydd wedi eu cyhuddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe rhwng 2 a 4 Mawrth 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021