Y Gyfrinach gan Owain - stori fuddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Owain o Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Owain yn fuddugol yng nghategori Cyfnod Allwedol 2b, i blant rhwng 9-11 oed am ei stori dan y teitl 'Y Gyfrinach'. Y gyflwynwraig a'r awdures Mari Lovgreen oedd y beirniad ac fel gwobr i Owain, yr artist Lleucu Gwenllian sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Owain.
Cyflwyniad
"Am ddiwrnod braf!" ebychodd Caradog y Corrach wrth agor y llenni led y pen.
"Ai i'r traeth," dywedodd a dechreuodd bacio yn syth bin.
A'i wynt yn ei ddwrn cyrhaeddodd Traeth y Dorlan a cherddodd ar hyd y tywod euraidd. Ond yn sydyn, baglodd. Edrychodd i lawr a gwelodd hen botel wydr.
"Dario, beth yn y byd ydy hwn?" Sylwodd fod neges yn y botel, tynnodd y corcyn er mwyn ei ddarllen. Ceisiodd ddeall yr iaith ddiarth hon...
"Rec i lletsaG saniD niboR - iec dobyw y hcanirfyg". Wedi meddwl sylwodd bod rhaid darllen yr yrgrifen am yn ôl!
Pennod Un: Castell Dinas Robin
"Am ddirgelwch!" meddai Caradog, penderfynodd fynd i Gastell Dinas Robin i ddarganfod mwy am y gyfrinach.
Dringodd y mynydd serth (gan gael picnic hanner ffordd) a chyrhaeddodd adfeilion hen ddrws y castell.
Ciciodd y drws ar agor a syllodd mewn - gwelodd ysbryd yn cuddio yn y pellter.
"Aaaa! Ysbryd!" gwaeddodd.
"Paid poeni. Rwyt ti yma i gael yr ail gliw ar dy daith," meddai'r ysbryd. "Edrycha ar y llun ar y wal," meddai a diflannodd mewn pwff o fwg.
Syllodd Caradog am oes ar y llun heb sylwi dim. Tarodd y llun yn flin a disgynnodd map efo X arno o du ôl y llun.
Pennod Dau: Ymlaen i Sycharth!
"Rhaid i mi ddilyn y map," meddai Caradog yn benderfynol a dilynodd y llwybr hir ar y map nes iddo gyrraedd... Sycharth!
Gwelodd fryn uchel o'i flaen - "O na, dim un arall i ddringo. Dwi heb ddod â phicnic efo mi tro 'ma," meddyliodd yn flinedig. Sbiodd am unrhyw gliw - edrychodd eto ar y map a gwelodd lun carreg ger yr X.
Gwelodd lwyn o fieri a straffaglodd drwyddi nes cyrraedd... ceg ogof. Mentrodd yn llawn poendod i mewn, yn y pellter gwelodd amlinelliad milwr. Aeth ato ond roedd mewn trwmgwsg. Siglodd ysgwyddau'r milwr a deffrodd hwnnw mewn syndod.
"Pwy wyt ti? Pam...? Ers pryd...? Pa flwyddyn ydy hi?" holodd y milwr mewn dryswch.
"Mae'n 2049," atebodd Caradog. "Ble mae Owain Glyndŵr? Dyma oedd ei gartref!" ebychodd yn llawn cyffro.
"Mi wna i ddangos y ffordd," atebodd y milwr gan arwain Caradog ymhellach i mewn i'r ogof.
Pennod Tri: Cyfarfod y Brenin - Owain Glyndŵr
Dilynodd Caradog y milwr at Orsedd grand a gwelodd Owain Glyndŵr yn ei holl ogoniant. Deffrodd y milwr Owain. "Pwy ydy'r dieithryn hwn?" gofynnodd Owain mewn syndod.
"Caradog y Corrach ydw i," atebodd Caradog.
"Sut mae Cymru y dyddiau yma?" holodd Owain yn ddwys. "Wel ryden ni bron â chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, dim ond cant i fynd," atebodd Caradog. Rhyfeddodd Owain at y ffaith yma.
"Mae gen i gant o filwyr yma yn fy myddin, a minnau wrth gwrs, felly... 101! Rydym wedi cyrraedd y nod! Deffrwch filwyr! Mae'r frwydr dros yr iaith Gymraeg wedi ei hennill. Doedd ein ymladd ni ddim yn ofer."
Gorymdeithiodd Owain Glyndŵr a'i filwyr allan o'r ogof gyda Caradog yn canu Yma o Hyd nerth ei ben. Roedd y gyfrinach wedi ei datgelu ac roedd dyfodol Cymru yn ddiogel.
Hefyd o ddiddordeb: