Beti George ar Pobol y Cwm
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n llais cyfarwydd iawn ar y radio yn holi'r Cymry am eu bywydau difyr, ond mae Beti George nawr wedi troi ei llaw at actio.
Felly am gyfnod fe fydd Beti a'i Phobol hefyd yn Beti ar Pobol y Cwm.
Mae'n brofiad cwbl newydd i'r ddarlledwraig sydd heb actio o'r blaen, heblaw am unwaith tra yn y coleg - profiad nad oedd hi'n ei gofio tan i ffrind ei hatgoffa.
Fe dderbyniodd Beti, sy'n ffan o'r rhaglen, e-bost yn cynnig rhan iddi fel soniodd ar raglen Ifan Evans ar Radio Cymru:
"Ro'n i'n meddwl y byddwn i'n mynd yno i fod yn fi fy hunain i wneud Beti a'i Phobol gydag un o'r cymeriadau efallai ond na roedd rhaid i fi actio cymeriad. Whare teg ges i ddisgrifiad o'r cymeriad gynta' cyn dweud ie neu na."
Mae'r cymeriad yn dipyn o deyrn, ac fe dderbyniodd y cynnig i bortreadu Eunice Gwenhwyfar Griffiths, mam i Ieuan Griffiths.
"Ro'n i'n ei weld fel rhyw fath o her newydd," eglurodd. "Pan 'y chi'n cyrraedd fy oedran i mae'n debyg fod pobl yn disgwyl i fi i eistedd lawr a gweu ac edrych ar deledu drwy'r dydd am wn i ond na, dwi ddim yn licio bod yn segur.
"Ac mi roedd e'n her... a gan mod i'n gwylio Pobol y Cwm yn gyson, yn ffyddlon, o'n i fel taswn i am fod yn rhan o'r teulu."
Fe fydd Beti yn ymddangos mewn sawl pennod, gyda'r gyntaf ar 19 Ebrill, ac oherwydd iddi fwynhau'r profiad cymaint tydi hi ddim am gau'r drws at ddychwelyd petai'r cymeriad yn ymddangos eto.
Beti ydi'r diweddara o wynebau enwog sydd wedi dod i Gwm Deri am gyfnod byr, gyda phobl fel Ray Gravell, Michael Sheen a Giant Haystacks wedi bod mewn penodau yn y gorffennol.
Ac i'r ddarlledwraig, mae'r profiad wedi gwneud iddi werthfawrogi'r holl waith sy'n mynd i greu'r opera sebon, ac wedi ei dysgu i addasu ei sgiliau darlledu ar gyfer y byd drama.
"Yr hyn dwi wedi neud ar hyd y blynyddoedd ydi cyflwyno rhaglenni, felly ro'n i'n dysgu darnau i'r camerâu a rhyw bethau fel yna ond mae hwn yn gwbl wahanol," meddai.
"Pan es i mewn ar y diwrnod cynta' ro'n i'n gwybod y geiriau i gyd a'r brawddegau yn iawn ond wedyn wrth gwrs ro'n i'n sylweddoli ar ôl sbel bod rhaid fi wybod be' oedd geiriau a brawddega'r actorion eraill... ac fe ddisgynnodd y geiniog yn y diwedd bod rhaid i fi wybod y rheiny hefyd cyn bod fi'n gallu ymateb.
"Mae pobl yn tueddu i edrych lawr eu trwynau ar operâu sebon ond mae'n waith ac yn sgil arbennig ac mae'n edrych mor hawdd pan ni'n gwylio'r operâu sebon ond mae'n bell o fod yn hawdd, mae'n waith caled."
Hefyd o ddiddordeb: