Dyn yn cyfaddef dynladdiad ei nain yn Rhiwabon

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu tu allan i dŷ Susan Hannaby yn Rhiwabon

Mae dyn 26 oed wedi cyfaddef dynladdiad ei nain ym mis Chwefror y llynedd.

Cafodd corff Susan Hannaby, 69, ei ganfod yn dilyn tân yn ei thŷ.

Roedd Kyle Ellis o Riwabon ger Wrecsam wedi gwadu llofruddiaeth, ond fe wnaeth y llys dderbyn ei ble i gyhuddiad o ddynladdiad.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod gan Ellis sgitsoffrenia, a bod ganddo "salwch dwys" ar y pryd.

Mae Ellis yn cael ei gadw mewn uned iechyd meddwl diogel, a bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Mai.

Pynciau cysylltiedig