Gwrthdrawiad M4: Tŷ 'fel cragen wag' ers marwolaeth brawd a chwaer
- Cyhoeddwyd
Mae teulu a gollodd dau o blant mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yn dweud bod eu cartref "yn teimlo fel cragen wag" hebddyn nhw.
Bu farw Gracie-Ann Lucas, 4, a'i brawd bach, Jayden-Lee Lucas, 3, ar ôl i fan daro'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo ar 5 Chwefror.
Mae dyn wedi cael dedfryd o naw mlynedd a phedwar mis yn y carchar am ladd y ddau blentyn. Roedd cocên yn ei gorff ar y pryd a botel o win coch ar agor yn y fan.
Fe blediodd Martin Newman, 41, o Gastell-nedd Port Talbot yn euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth y ddau blentyn ac anafu eu mam, Rhiannon Lucas, yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd.
Roedd gan Newman ddwywaith y lefel cyfreithiol o alcohol yn ei gorff, ac roedd cocên yn ei system pan darodd y car Fiesta, oedd wedi tynnu i mewn i'r llain galed yng Nghasnewydd.
Clywodd y llys bod Newman wedi cymryd cocên ac wedi yfed fodca a 10 can o seidr tan 05:00 fore'r gwrthdrawiad.
'Bywydau wedi eu dinistrio'
Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu'r ddau blentyn na fyddai unrhyw beth yn gallu cymryd lle y "cariad ac hapusrwydd" yr oedd y ddau yn ei roi iddyn nhw.
"Mae ein cartref teuluol nawr yn teimlo fel cragen wag hebddyn nhw..." dywedodd y teulu.
"Mae ein bywydau wedi eu dinistrio.
"Fe ddewisodd e [Martin Newman] yrru ei gerbyd dan ddylanwad diod a chyffuriau ac mae'r gweithredoedd hyn wedi dangos diystyriaeth lwyr o ddiogelwch unrhyw un."
Ychwanegodd y teulu eu bod wedi "talu'r pris eithaf am ei weithredoedd".
Gan ddiolch i'r gwasanaethau brys a chymuned Tredegar, dywedon nhw nad oes "diwrnod wedi mynd heibio lle nad ydyn ni wedi cael cynnig cariad a chefnogaeth" a bod hynny'n "meddwl y byd".
Roedd y teulu o Dredegar, Blaenau Gwent, yn dychwelyd o barti penblwydd ar 5 Chwefror pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd Jayden-Lee a Gracie-Ann eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i drin eu hanafiadau, ond bu farw'r ddau yn ddiweddarach.
Fe welodd Llys y Goron Caerdydd dystiolaeth o gamerâu Traffig Cymru. Roedd yn dangos fan Newman yn gwyro ar hyd lonydd yr M4 o Bont Tywysog Cymru i'r pwynt lle darodd car y teulu.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Dywedodd yr erlynydd, Roger Griffiths, bod Newman yn "crwydro ar hyd lonydd".
Clywodd y llys bod Newman yn credu iddo syrthio i gysgu "am eiliad" cyn y gwrthdrawiad.
Daeth yr heddlu o hyd i botel o win coch ar agor yn ei fan yn dilyn y gwrthdrawiad. Dywedodd Newman wrth swyddogion ei fod wedi cael "llymaid ohono".
Fe glywodd y llys bod Newman wedi ei gael yn euog o yfed a gyrru yn y gorffennol.
Ychwanegodd yr erlynydd bod "grym y gwrthdrawiad wedi gorfodi'r seddi cefn i gefn y seddi blaen y tu mewn i'r car".
Dywedodd y barnwr mai dyma'r "lefel fwyaf difrifol o yrru'n beryglus" a'r "anwybyddiad mwyaf amlwg o reolau'r ffordd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2022