Pennu amserlen achos dynladdiad merch 16 oed o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Llys Y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwrandawiad diweddaraf yr achos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug fore Iau

Mae disgwyl mai fis Ionawr nesaf y bydd dau berson o Bowys yn sefyll eu prawf ar gyhuddiad o achosi dynladdiad merch yn ei harddegau trwy adael iddi fynd yn beryglus o ordew.

Cafwyd hyd i Kaylea Louise Titford, oedd yn 16 oed, yn farw yn ei chartref yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020.

Mae ei rhieni - Alan Titford, 44, a Sarah Jane Lloyd-Jones, 39, yn cael eu cyhuddo o achosi neu ganiatáu'r farwolaeth drwy esgeulustod difrifol.

Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, fe gofnodwyd 30 Mehefin ar gyfer gwrandawiad ble y bydd disgwyl i'r ddau gyflwyno ple.

Hefyd fe gofnodwyd 16 Ionawr fel dyddiad tebygol dechrau'r achos llawn, sy'n debygol o bara rhwng tair a phedair wythnos.

Pynciau cysylltiedig