Cerdyn i wella'r berthynas rhwng busnesau a phlant anabl
- Cyhoeddwyd
Bydd cerdyn adnabod newydd yn gobeithio gwella'r berthynas rhwng busnesau a theuluoedd sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol.
Gobaith cynllun PIWS, a gafodd ei lansio yn Ynys Môn, ydy dangos i fusnesau yn glir pa ofynion ychwanegol allai rhai cwsmeriaid fod angen wrth ymweld.
Bydd busnesau sy'n cytuno i'r cynllun wedyn yn derbyn hyfforddiant er mwyn helpu teuluoedd sydd ag anghenion, sydd ddim wastad yn teimlo bod 'na groeso.
Mae mentrau tebyg wedi dechrau dros gyfnod y pandemig gyda chortyn o gwmpas y gwddf gyda blodyn haul yn gallu dangos bod gan yr unigolyn anabledd cudd.
Ond mae pryder wedi bod fod modd i unrhyw un fanteisio ar hyn o bosib heb achos dilys.
Yn wahanol felly, mae cerdyn PIWS yn gofyn am lofnod swyddogol gan un ai meddyg teulu neu wasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnig statws swyddogol i'r cerdyn ac yn dangos yn glir pa fath o gefnogaeth mae'r unigolyn ei angen.
'Teimlo'n saff'
Fe gafodd y cynllun ei greu gan Uwch Seriff Gwynedd, Davina Carey-Evans sydd â mab 27 oed ag awtistiaeth.
Dywedodd, wrth ymweld â bwytai neu fusnesau, bod hi'n anodd cyfleu i aelodau staff beth yn union oedd ei angen ar ei mab.
Y gobaith felly ydy y bydd cerdyn PIWS yn cynnig modd syml, gweledol ac effeithiol o roi hawliau a thegwch i bobl sydd ag anableddau er mwyn sicrhau bod eu profiad nhw wrth ymweld â mannau twristiaeth yn benodol, mor hwylus ag sy'n bosib.
Yn ôl MENCAP Cymru mae llwyddiant lansiad y cynllun yn brawf bod 'na alw am gefnogaeth o'r fath.
"Mae 'na gymaint o deuluoedd sy'n teimlo does 'na'm croeso iddyn nhw neu ddealltwriaeth o'u hanghenion," meddai Shelly Lewis o MENCAP.
"Mae'n hawdd iawn i deuluoedd lle mae 'na anghenion ychwanegol deimlo'n ynysig a bod nhw ddim isho mynd allan i gymunedau.
"Mae'r digwyddiadau y mae PIWS yn gwneud yn dangos bod teuluoedd eisiau dod at ei gilydd, bod nhw eisiau mynd i lefydd lle maen nhw'n teimlo maen nhw'n saff."
Partneriaeth ydy'r cynllun lle fydd busnesau yn derbyn hyfforddiant ar sut y gallan nhw addasu eu busnes i helpu cwsmeriaid sydd ag anghenion ychwanegol.
Fe allai hyn gynnwys diffodd y golau neu gerddoriaeth i blant sydd ag awtistiaeth, neu nodyn syml yn dweud eu bod yn hapus i bobl gael eu gweini wrth y bwrdd os bod ciwio yn broblem i'r unigolyn.
Mae'r cynllun, fydd yn cael ei lansio yng ngogledd Cymru, yn canolbwyntio ar y sector dwristiaeth hefyd gyda'r gobaith o fanteisio ar yr hyn sy'n cael ei alw yn dwristiaeth biws - sef cwsmeriaid sydd ag anableddau - sy'n cael ei amcangyfrif i fod gwerth £15m ym Mhrydain bob blwyddyn.
Un fuodd yn y lansiad ydy Siwan, sydd ag awtistiaeth. Yn ôl Ffion Elen Davies, sy'n gweithio efo Siwan ac yn ei chefnogi, bydd cerdyn PIWS yn gwneud gwahaniaeth.
"Mi neith o helpu Siwan a phobl eraill hefyd, mae pobl angen deall bod chi angen bod bach fwy patient efo plant fatha Siwan," meddai.
"Pan 'da ni'n mynd allan ma' pobl yn gwenu, yn helpu a ma' Siwan wir yn lyfli o hogan a mae o jest yn mynd i helpu hi."
Mae mynd ar drip neu ymweld â bwyty neu gaffi yn gallu bod yn brofiad anodd i blant sydd ag anghenion yn ôl Paul Williams, sydd â mab, Liam, sydd ag awtistiaeth.
"Os 'da chi'n gadael nhw wybod o flaen llaw ma' nhw yn gallu helpu a ma' nhw'n gallu accomadatio, ond wrth gwrs 'sa'n dda iddyn nhw i fod yn fwy awyddus o'r pethau sy'n mynd ymlaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021