Etholiadau 2022: Ymddiheuriad am drydariad ymgeisydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mobile phoneFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymddiheuro i'r Aelod Seneddol Ceidwadol Fay Jones, wedi i ymgeisydd cyngor lleol ym Mhowys alw'r AS yn hiliol.

Dywed yr arweinydd Jane Dodds y bydd yn codi'r mater gyda'r ymgeisydd, Little Brighouse.

Mewn neges drydar sydd bellach wedi'i dileu ar 16 Ebrill dywedodd Brighouse fod yr AS wedi "datgelu eich bod yn hiliol."

Roedd Ms Jones wedi ysgrifennu at Ms Dodds yn gofyn am gymorth i gael gwared ar y trydariad, am ymddiheuriad ac ymchwiliad.

Ar fater arall, mae uwch gynghorydd Llafur yng Nghasnewydd wedi ymddiheuro ar ôl i Geidwadwyr lleol feirniadu neges Facebook oedd yn cymharu maniffesto'r blaid â rhywbeth a ysgrifennwyd gan y Natsïaid.

Ar ar 5 Mai bydd etholiadau lleol yn cae eu cynnal yng Nghymru.

Mewn ymateb i drydariad gan Little Brighouse o Bowys, oedd hefyd yn awgrymu bod angen cymorth proffesiynol ar Ms Jones, dywedodd Ms Jones tra bod trafodaeth wleidyddol fywiog i'w ddisgwyl "mae'r sylw gan eich ymgeisydd yn croesi llinell".

"Mae'n amlwg yn anghywir ac yn hynod niweidiol."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae Little Brighouse yn ymgeisydd yn Diserth a Threcoed gyda Phontnewydd-ar-Wy.

Yn ei hateb dywedodd Jane Dodds: "Rwy'n mynd i'r afael â'r mater hwn ar wahân gyda'r asiant a'r ymgeisydd ac rwy'n cytuno â chi nad oes unrhyw un yn haeddu cael ei gam-drin na'i fygwth ac ni allaf ond ymddiheuro'n bersonol.

"Rwy'n dal heb weld y trydariad ei hun ... ond gallaf ond ymddiheuro am yr iaith annerbyniol rwy'n ei deall o'ch llythyr oedd ynddo."

Disgrifiad o’r llun,

Anfonodd Jane Dodds ymddiheuriad personol at Fay Jones

Dywedodd Ms Dodds wrth BBC Cymru: "Rydym yn edrych ar sicrhau bod 'na ymddiheuriad, ymddiheuriad llawn i Fay Jones gan yr ymgeisydd ac rydw i wedi cyhoeddi ymddiheuriad fy hun yn syth bin ar ran y blaid."

Pan ofynnwyd iddi a yw'r ymgeisydd yn wynebu unrhyw gamau pellach, ychwanegodd: "Fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgeisydd bellach ar y papur pleidleisio ond rydym yn edrych ar beth yw'r opsiynau."

Ymgeiswyr eraill yn ward Diserth a Threcoed gyda Phontnewydd-ar-Wy yw:

  • Ray Johnson-Wood, Annibynnol

  • Dilys Price, Ceidwadwyr Cymreig ·

  • Dorienne Robinson, Plaid Werdd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyngor Casnewydd ymhlith y 22 awdurdod sydd ar fin cael eu hethol

Yn y cyfamser mae un o uwch-gynghorwyr Llafur Casnewydd wedi ymddiheuro ar ôl iddo gymharu maniffesto Ceidwadol lleol i rywbeth gafodd ei ysgrifennu gan yr Almaen Natsïaidd.

Ysgrifennodd yr aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy Jason Hughes ar Facebook fod y Natsïaid yn defnyddio iaith "i ysgogi casineb, hiliaeth a dicter" ac mae wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ysgogi "casineb".

Gan ymddangos ei fod yn cyfeirio at y cyhoeddiad y bydd rhai ceiswyr lloches yn cael tocyn unffordd i Rwanda o dan gynlluniau llywodraeth y DU, ysgrifennodd Mr Hughes: "Rydym wedi gweld geiriau fel gosod gwaith ar gontract allanol a phrosesu yn cael eu defnyddio mewn perthynas â chyfiawnhau masnachu mewn pobl â chaniatâd y wladwriaeth."

Ychwanegodd: "Hyd yn oed mewn maniffestos lleol mae termau fel creu polisïau fydd yn para 100 mlynedd yn atgoffa rhywun, os nad ydyn nhw wedi'u cymryd o, ideolegau'r dde eithafol."

Wrth gyfeirio at ddisgrifiad y Natsïaid o'r Drydedd Reich fel y Reich Mil Mlynedd, ychwanegodd Mr Hughes: "Pan mae pleidiau'n dweud eu bod yn creu unrhyw beth am 100 mlynedd - byddwch yn wyliadwrus oherwydd ei fod yn emosiynol ac yn sinistr.

"Y tro diwethaf i mi ddarllen iaith o'r fath oedd pan oedd pobl yn sôn am Reich 100 mlynedd".

Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr Casnewydd ar gyfer etholiad 2022 wedi addo i ddechrau y byddai ei addewidion yn darparu "gobaith am y 100 mlynedd nesaf" - er i hwn gael ei olygu yn ddiweddarach i ddweud "bydd ein cynllun yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol".

Etholiadau Lleol 2022

Dywedodd Matthew Evans, arweinydd Ceidwadwyr Casnewydd, fod y gymhariaeth maniffesto yn "hollol anghyfrifol": "Rwyf wedi fy syfrdanu - nid yw'n seiliedig ar unrhyw ffaith o gwbl".

"Rwyf wedi gweld ymgeiswyr yn cael eu gwahardd am sylwadau o'r fath. Rydym i gyd wedi ymrwymo i addewid ymgyrch deg. Mae'n bwysig oherwydd nid ydym yma i ysgogi casineb, rydym yma i redeg ymgyrch deg."

Dywedodd Mr Hughes: "Mae'n ddrwg gen i fod y gymhariaeth hon ar iaith wedi'i hawgrymu, o edrych yn ôl ni fyddwn yn ei gwneud eto ac rwyf wedi dileu'r post.

"Rwyf wedi ymrwymo i ymgyrchu ar faterion sy'n effeithio ar bobl Casnewydd a byddaf yn parhau i wneud hynny."

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud y byddai cynllun Rwanda gwerth £120m yn "arbed bywydau di-rif" rhag masnachu mewn pobl.

Mae Mr Hughes yn ymgeisydd ar gyfer ward Caerllion. Mae Llafur yn dal mwyafrif o seddi Cyngor Dinas Casnewydd, ac yn rheoli'r awdurdod.

Ymgeiswyr eraill yn ward Mr Hughes yw:

  • Claire Baker-Westhead, Llafur Cymru

  • Steve Cocks, Llafur Cymru

  • Huw Iwan Davies, Ceidwadwyr Cymreig

  • Belayet Khan, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

  • Paul L'Allier, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

  • Joan Watkins, Ceidwadwyr Cymreig

  • James Weeks, Ceidwadwyr Cymreig

Pynciau cysylltiedig