Dyfodol y Gymraeg yn hawlio sylw yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mynyddoedd y Cambrian yw'r ffin rhwng Ceredigion a Phowys, ac er nad yw'r ffin honno wedi newid mae eraill wedi newid ar ôl i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru addasu ffiniau wardiau cynghorau lleol.
Yng Ngheredigion mae nifer y wardiau wedi gostwng o 40 i 34 - mae ward Tregaron ac Ystrad Fflur yn un o'r wardiau newydd sydd wedi eu creu.
Mae'r ward newydd yn cyfuno'r ardal wledig o gwmpas Abaty Ystrad Fflur yn y gogledd â Thregaron - un o brif drefi mewndirol Ceredigion.
Mae blaenoriaethau'r etholwyr yn weddol debyg.
Wrth gerdded trwy bentref Pontrhydfendigaid a'r mart yn Nhregaron yr un pwnc sy'n codi, a hwnnw yw sicrhau dyfodol y Gymraeg.
"Ca'l y pentre 'ma yn hollol ddwyieithog," medd un dyn wrtha i ar ei ffordd i'r siop yn Bont.
"Dwi ddim yn meddwl bod dim byd wedi digwydd i helpu'r iaith ac mae'n bryd i ni neud rhywbeth i helpu'r iaith," meddai.
Roedd un arall tu fas i'r siop hefyd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg pan fydd hi'n pleidleisio.
"Mae e'n bwysig i fi, wastad wedi bod. Dwi'n credu bod y bobl sydd wedi ein cynrychioli yng Ngheredigion wedi bod yn frwd dros y Gymraeg a ma' hwnna'n grêt," meddai.
Cri debyg sydd yna i lawr Afon Teifi ym mart Tregaron.
"Ma' eisiau edrych ar ôl pobl sy'n siarad Cymraeg - pobl sydd wedi byw 'ma ar hyd eu hoes," medd un ffermwr.
"Ma' eisiau cadw cymaint o bobl ifanc yma ac y gallwn ni."
Roedd eraill yn crybwyll y system gynllunio, y cyfle i adeiladu cartrefi yn lleol a swyddi i bobl ifanc fel ffactorau allai fod yn effeithio ar yr iaith yn lleol.
Yn ystod cyfrifiad 2011 roedd 67% o boblogaeth Tregaron yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
Ond gyda dros 10 mlynedd ers hynny, mae tipyn wedi newid.
Mae Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith yn dweud bod rôl amlwg gan y cyngor lleol i'w chwarae yn nyfodol yr iaith.
"Mae 'na ddau faes yn benodol iawn," dywedodd.
"Un yw'r maes cynllunio. Lle'r cyngor lleol ydy datblygu cynllun datblygu lleol a dylai'r Gymraeg fod yn ganolog i hwnna.
"Yn ail, y cyngor sydd yn gyfrifol am addysg yn y sir.
"Dylai ddim un person adael ysgol yng Ngheredigion lle dyw'r Gymraeg ddim yn hollol rugl iddyn nhw."
Etholiadau Lleol 2022
Mae'r ddau ymgeisydd yn Nhregaron ac Ystrad Fflur, Catherine Hughes o Blaid Cymru ac Ifan Davies, Annibynnol, yn benderfynol o ddiogelu'r Gymraeg yn y ward.
Yn ôl Catherine Hughes mae'n bwysig bod pobl yn gallu byw eu bywyd drwy'r Gymraeg: "Byddai'n hybu'r iaith Gymraeg fel dwi wedi 'neud trwy fy holl amser ar y ddaear yma.
"Mae'r Gymraeg wedi bod yn hollbwysig i mi. Dwi wedi magu fy mhlant ac ma' fy wyrion i hefyd yn siarad Cymraeg.
"Ond bydden i'n hoffi hybu yr iaith fel bod pawb yn teimlo'n gartrefol ac yn gweld hi'n haws i fyw eu bywyd nhw yn Gymraeg trwy fynd i'w siopau lleol - a dweud y gwir byw eu bywyd bob dydd drwy'r iaith Gymraeg."
Dywedodd Ifan Davies: "Mae'n amlwg bod hi'n bwysig bod ein hysgolion ni yn darparu addysg Gymraeg.
"Ond os nad oes 'na bobl ifanc yng nghefn gwlad smo'r teuluoedd yn mynd i fagu pobl ifanc.
"Felly ma' dilyniant ac amaethyddiaeth yn chwarae rhan bwysig yn hynny, a hefyd 'neud yn siŵr bod ein pobl ifanc ni yn gallu fforddio i aros yng Ngheredigion i ddiogelu'r iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022