Parc Bute: Perllan i'r gymuned wedi fandaliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bunnoedd wedi cael eu rhoi gan bobl yng Nghaerdydd ar gyfer perllan i'r gymuned wedi fandaliaeth ym Mharc Bute.
Y bwriad yw ailblannu dros 50 o goed a gafodd eu dinistrio ym Medi 2021.
Perchennog The Secret Garden Cafe yn y parc, Melissa Boothman, ddechreuodd yr ymgyrch ar ôl y difrod gwerth miloedd o bunnau.
Mae Melissa wedi gosod targed i godi £10,000 ar ôl siarad gyda busnesau, garddwyr ac artistiaid sy'n cefnogi'r syniad.
Ond mae'n ofynnol i Gyngor Caerdydd gefnogi'r cynlluniau hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod "cyfraniadau hael y gymuned yn aruthrol" ac y bydd "tîm Parc Bute yn edrych ar y cynlluniau yn ofalus cyn y tymor nesa' o blannu coed i gytuno ar y manylion".
Dywedodd Melissa mai sgyrsiau gyda'i chwsmeriaid roddodd yr ysbrydoliaeth iddi ddechrau'r ymgyrch i godi arian.
"Pan ddigwyddodd y difrod roedd pobl yn teimlo fel bod rhywun wedi ymosod arnyn nhw hefyd," dywedodd.
"Roedd pobl yn estyn allan, yn dod mewn i'r caffi ac yn dweud wrtha' i am eu profiadau nhw o'r parc ac eisiau dod at ei gilydd i helpu ac ail-adeiladu.
"Perllan gan y gymuned i'r gymuned fydd hon.
"Mae syniadau gan bobl leol yn ganolog i sut fydd y berllan yn edrych. Ry'n ni eisiau darparu pob math o gyfleoedd, gwersi yn yr awyr agored, tyfu a rhoi bwyd i bobl yn y gymuned a phob math o weithdai".
Mae Anna Henderson yn fiolegydd a chwsmer yn y caffi sydd â phrofiad o dyfu coed. Mae hi eisiau gwirfoddoli er mwyn gweld y berllan yn ei lle.
"Mae apêl y parc yn amlwg i bawb ond dwi'n credu bod mwy o apêl o blannu coed, plannu planhigion sydd yn mynd i roi ffrwyth a bwyd i bobl," dywedodd.
"Dwi'n gobeithio bydd hynny yn denu mwy o bobl i ddysgu - ac y bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobl y ddinas.
"Dwi'n siŵr bydd e'n helpu gydag iechyd meddwl. Dwi'n gweld wynebau cyfarwydd yn y parc bob dydd pan dwi'n cerdded y cŵn.
"Dwi'n gwybod faint o les dwi'n cael o fy amser i yn y parc bob dydd a dwi'n gwybod o siarad â phobl eraill fod e o les i bawb."
Mae Suzanne a Chris Carter yn artistiaid sy'n gyfrifol am gwmni Patternistas ac maen nhw eisiau dylunio gwaith celf cynaliadwy fel rhan o'r prosiect.
Dywedodd Suzanne: "Beth bynnag rydyn ni'n ei wneud ry'n ni eisiau siarad â phobl leol Caerdydd a sicrhau bod eu syniadau nhw yng nghalon y cynlluniau.
"Efallai gallwn ni gynnwys negeseuon pobl am beth mae'r parc yn golygu iddyn nhw i mewn i'r gwaith celf neu ofyn i bobl ddylunio celf eu hunain."
Mae Cody Wheeler yn arddwr coedwig ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth arbenigol ar dyfu bwyd fel rhan o'r prosiect.
Dywedodd bod y prosiect yn "bwysicach nag erioed" yn sgil yr argyfwng costau byw.
"Dwi eisiau helpu gyda gweithdai ar sut i dyfu ffrwythau, llysiau a choed a threfnu teithiau chwilota ar gyfer cynnyrch sy'n tyfu'n wyllt er mwyn i bobl ddysgu sut i ddarganfod a thyfu cynnyrch eu hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021