Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio merch 2 oed

  • Cyhoeddwyd
Lola JamesFfynhonnell y llun, Dyfed-Powys Police

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio merch ddwy oed yn Sir Benfro.

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020, ychydig ddyddiau wedi iddi ddioddef anaf difrifol i'w phen yn ei chartref yn Hwlffordd.

Fe wnaeth Kyle Bevan, 30 o Aberystwyth, ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio'r plentyn.

Ni wnaeth mam Lola, Sinead James, ymddangos yn y llys am ei bod yn hunan-ynysu yn sgil profi'n bositif am Covid-19.

Mae Ms James, 29 oed o Neyland, wedi ei chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Cafodd yr heddlu eu galw i "ddigwyddiad" yng nghartref Lola ar 17 Gorffennaf 2020.

Mae Mr Bevan a Ms James yn parhau yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw'n ymddangos nesaf mewn gwrandawiad ple ar 24 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig