Etholiadau lleol 2022: Problem y farchnad dai
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder fod cynnydd mewn costau byw yn gwneud hi'n anoddach fyth i bobl ifanc brynu tai yn eu cymuned leol.
Dywedodd un arbenigwr wrth Newyddion S4C y gallai banciau gynnig morgeisi llai os yw prynwyr yn gorfod gwario mwy o bres ar filiau ynni, bwyd a chostau eraill.
Mae'r pwnc yn derbyn sylw mawr ar Ynys Môn lle mae 8.25% o'r stoc dai bellach yn ail gartrefi.
Mae'r pleidiau oll wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblem y farchnad dai ar drothwy'r etholiadau lleol.
'Dim cymdeithas'
Tra bod y canran cyfartalog o ail gartrefi ym Môn y trydydd uchaf yng Nghymru, mae rhai ardaloedd penodol yn profi canrannau mawr.
Ym Mae Trearddur mae 25.3% o'r stoc dai bellach yn ail gartrefi. Yn Rhoscolyn mae'r ffigwr yn 21.6% ac yn 18.1% ym Moelfre.
Mae'r pleidiau gwleidyddol oll wedi cydnabod ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem yn sgil yr etholiadau lleol.
Ond mae'r daith i ddatrys y sefyllfa yn wahanol gan bawb.
Un sydd wrthi'n chwilio am ei gartref cyntaf ydy Llion Elis Thomas, 27, ac ar hyn o bryd yn byw gyda'i rieni yn Llangefni.
Mae'n chwilio am gartref gyda'i gariad ond yn dweud bod y farchnad dai i bobl ifanc Môn yn amhosib.
"Mae'n her ofnadwy i brynu yn lleol," meddai.
"Ar y funud, gyda phrisiau bob dim yn codi mae pob dim yn anoddach, oel, petrol ac yn y blaen. Does 'na'm stop arno mewn ffordd."
Wrth ystyried effaith ail gartrefi ar y farchnad mae Llion yn dweud bod angen newid y drefn er mwyn sicrhau fod pobl ifanc Môn yn gallu byw ac aros yn lleol.
"Ffordd dwi'n sbïo arno ydi mae gan bawb hawl i brynu tŷ ond os oes gennych chi un yn barod, pam prynu un lle da chi ond am fod yma am ryw fis?
"Basa chi'n gallu aros mewn hotel - mae o'n troi'r llefydd mae mewn i Ghost Towns, does 'na'm cymdeithas yma, nid yn unig cymdeithas Gymraeg ond cymdeithas yn gyffredinol."
'Mae'n mynd i fod yn anodd i bobl'
Gyda'r pris am dŷ cyfartalog yng Nghymru bellach wedi cyrraedd dros £233,000 mae 'na bryder fod y cynnydd mewn costau byw hefyd am wneud y sefyllfa yn anoddach.
"Un o'r cwestiynau sy'n cael ei ofyn ar y ffurflenni [morgeisi] ydy beth yw'ch costau byw chi," meddai Owain Llywelyn, llefarydd ar ran y Sefydliad Syrfewyr Brenhinol yng Nghymru.
"Nwy, trydan, bwyd - os ydy rheini yn cynyddu... mae'r arian mae'r cwmni morgeisi yn gallu cynnig yn mynd i fod yn llai.
"Mae'n mynd i fod yn anodd i bobl i brynu tŷ cyntaf neu ail dŷ hyd yn oed."
Safbwynt y pleidiau
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ran ran Llafur Cymru: "Rydym eisiau i bawb allu fforddio byw yn eu hardal leol - boed hynny'n prynu neu'n rhentu cartref.
"Nid oes un cam gweithredu unigol a fydd yn lleddfu'r pwysau ar gymunedau lle mae niferoedd mawr o ail gartrefi.
"Dyna pam mae gennym ni gynlluniau cyffrous a radical sy'n cynnwys ystod eang o gamau gweithredu, gan gynnwys adeiladu 20,000 yn fwy o dai fforddiadwy i'w rhentu; dod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd; capio nifer yr ail gartrefi mewn cymunedau unigol; trwyddedu tai gosod gwyliau a chodi trothwyon treth."
Etholiadau Lleol 2022
Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai: "Mae'r argyfwng tai yng Nghymru yn ganlyniad uniongyrchol i flynyddoedd o lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur yn methu â darparu cyfleoedd ac adeiladu digon o dai - gydag adeiladu tai yn disgyn yn is na'r lefelau cyn datganoli.
"O dan oruchwyliaeth Llafur, mae gweithwyr Cymru yn mynd â'r pecynnau cyflog lleiaf yn y Deyrnas Unedig adref gyda nhw a gall prynwyr tro cyntaf dalu hyd at £4,950 yn fwy mewn Treth Trafodiadau Tir na phrynwyr tro cyntaf yn Lloegr.
"Mae'n bwysig nodi, tan yn ddiweddar, fod gan Gymru fwy o gartrefi gwag nag ail gartrefi, ond mae gan Lafur a'u partneriaid clymblaid cenedlaetholgar fwy o ddiddordeb mewn rhoi bwch dihangol i berchnogion ail gartrefi yng Nghymru oherwydd eu hanallu i ddarparu stoc tai digonol.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai gwaith caled dalu ar ei ganfed a'r hyn sydd ei angen ar Gymru yw dull cyd-gysylltiedig o hybu'r economi, codi cyflogau, ac adeiladu mwy o dai, gan sicrhau bod pobl yn gallu prynu eu cartref eu hunain."
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bydd cynghorwyr ac awdurdodau lleol dan arweiniad Plaid Cymru yn cefnogi adeiladu mwy o dai cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.
"Bydd premiymau treth cyngor uwch ar gyfer ail gartrefi a chamau i gau'r man gwan sy'n caniatáu i berchnogion ail dai gofrestru eu heiddo fel busnesau er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor.
"Byddwn hefyd yn newid deddfwriaeth cynllunio i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi a gwrthod caniatâd i newid annedd o fod yn brif breswylfa i fod yn ail breswylfa a defnyddio eiddo gwag unwaith eto drwy fynnu bod perchnogion yn gwneud gwelliannau, a rhoi grantiau i brynwyr am y tro cyntaf i adnewyddu eiddo gwag ac eiddo sy'n cael ei esgeuluso."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021