Ail gartrefi: Angen cyfnod 'hir iawn' i weld effaith polisïau

  • Cyhoeddwyd
Suzy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Suzy Davies: "Fy mhryder i yw y gallai hyd yn oed y peilot yn Nwyfor Meirionnydd fod yn rhy fyr o ran amser"

Mae angen cyfnod "hir iawn" i weld a yw polisïau i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru yn cael unrhyw effaith, yn ôl ffigwr blaenllaw yn y diwydiant twristiaeth.

Ym mis Tachwedd, fe addawodd cytundeb cydweithredu newydd Llafur a Phlaid Cymru i gymryd "camau brys a radical" ar y pwnc.

Ond dywedodd cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Suzy Davies, wrth un o bwyllgorau Senedd Cymru y gallai cynllun peilot sydd ar y gweill yn Nwyfor Meirionnydd "fod yn rhy fyr".

Rhybuddiodd hefyd am "ddicter" mewn ardaloedd na sydd â phroblem ail gartrefi.

Fis diwethaf, clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bod "angen mwy o frys" ar Lywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael ag ail gartrefi.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth pobl ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn y llynedd er mwyn tynnu sylw at y broblem

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad , dolen allanolar newid deddfau cynllunio yn dilyn pryder ynghylch perchnogaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ac mae Dwyfor, sy'n cynnwys Pen Llŷn a'r ardal i'r gorllewin o Borthmadog, yn ardal brawf.

'Pryder'

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Suzy Davies wrth y pwyllgor, fel rhan o'i ymchwiliad i ail gartrefi, fod "llawer o weithgarwch ar hyn o bryd, oherwydd ei fod yn faes polisi sydd o ddiddordeb mawr i Lywodraeth Cymru ac yn wir i rai rhannau o Gymru.

"Fy mhwynt i fyddai bod angen cyfnod hir iawn o amser i asesu a yw polisïau presennol - fel premiwm y dreth gyngor - yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y maes polisi y mae gan y llywodraeth ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd.

"Fy mhryder i yw y gallai hyd yn oed y peilot yn Nwyfor Meirionnydd fod yn rhy fyr o ran amser."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf gan ail gartrefi

Ychwanegodd Ms Davies: "Rwy'n meddwl ei bod yn amlwg mai'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio'i wneud yw mynd at wraidd yr hyn y mae cymuned gytbwys yn edrych fel, ac yn cydnabod, fel yn wir rydym ni yn ei wneud, bod y cydbwysedd wedi mynd o chwith mewn rhai cymunedau, yn bennaf yn y gogledd a'r gorllewin.

"Dydi hynny ddim yn wir, wrth gwrs, i Gymru gyfan. Mae rhywfaint o ddicter yn y sector busnes hunan-ddarpar eu bod yn cael eu llusgo i mewn i sgyrsiau ar gyfer rhannau o Gymru ond nad ydynt yn cael eu heffeithio, mewn gwirionedd, gan y broblem sy'n ceisio cael ei datrys yma.

"Mae yna gydnabyddiaeth hefyd, dw i'n meddwl, fod statws a phresenoldeb y Gymraeg mewn rhai rhannau o Gymru, yn gwbl briodol, yn ffocws. Unwaith eto, mae hynny'n chwarae'n wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, yn dibynnu ble rydych chi."

Mae'r llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf gan ail gartrefi, ond mae wedi ei chyhuddo o gynnig "swm pitw" o arian i daclo'r "argyfwng".

Beth yw amcanion y llywodraeth?

Yn ogystal, dywedodd cynrychiolwyr o'r diwydiant tai wrth y pwyllgor eu bod yn cael trafferth deall beth mae gweinidogion Cymru yn ceisio'i gyflawni ar ail gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 24,873 o ail gartrefi cofrestredig yng Nghymru ar ddechrau 2021

Dywedodd Sam Rees, o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, nad oedd safbwynt Llywodraeth Cymru "mor glir ag y dymunwn".

"Rydym wedi cael trafferth deall yn union beth mae Llywodraeth Cymru eisiau ei gael o'r ymchwiliad yma i ail gartrefi a beth ddylai eu blaenoriaethau polisi fod," meddai.

Gofynnwyd i dystion a oeddent yn ymwybodol o beth yw amcanion y llywodraeth, gan yr Aelod o'r Senedd Llafur, John Griffiths, sy'n cadeirio'r pwyllgor.

'Drysu'

Dywedodd Shomik Panda, cyfarwyddwr cyffredinol Cymdeithas Gosod Tai Tymor Byr y DU, mai ei ddealltwriaeth ef oedd bod gweinidogion eisiau "sefydlogi nifer yr ail gartrefi a'u lleihau dros amser" a "chyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd lleol i bolisïau'r dyfodol i gydnabod effeithiau lleol ail gartrefi a llety gwyliau a sicrhau bod y buddion i gymunedau yn decach" gan ddefnyddio rheoleiddio.

Ond ychwanegodd: "Mae angen i Lywodraeth Cymru fod ychydig yn gliriach o ran yr hyn y mae am ei gyflawni o ran ail gartrefi a'r hyn y mae am ei gyflawni o ran llety gwyliau.

"Mae'r ddau fater yn hollol ar wahân ac ni ddylid eu drysu.

"Nid yw cymryd camau sy'n cosbi llety gwyliau tymor byr o reidrwydd yn mynd i leihau nifer yr ail gartrefi ond fe allai amddifadu cymunedau lleol o incwm cysylltiedig â thwristiaeth.

"A dydyn ni ddim, er enghraifft, yn teimlo y byddai gostyngiad yn y cyflenwad o lety gwyliau o fudd i economi Cymru.

"Rydyn ni'n meddwl, felly, y dylai Llywodraeth Cymru fynegi'n glir yr hyn y mae am ei gyflawni o ran llety gwyliau yn ogystal ag ail gartrefi."

Beth yw ail gartref?

Dywedodd Daryl McIntosh o Propertymark, sy'n cynrychioli asiantau eiddo, fod yna "lawer o gwestiynau y mae'n debyg y bydd angen eu hateb, gan ddechrau gyda'r diffiniad o beth yw ail gartref, beth yw llety gwyliau?"

Beth oedd "nod terfynol" gweinidogion, gofynnodd.

"Ai sicrhau bod twristiaeth yn aros yn y wlad, a yw'n annog perchentyaeth, neu ai sicrhau bod yna gartref i bawb, gyda'r diffyg tai sydd ar gael ar hyn o bryd hefyd?"