Galw am roi bonws staff gofal i lanhawyr a chogyddion

  • Cyhoeddwyd
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gofalwyr yn cael y bonws o £1,000, ond nid gweithwyr eraill cartrefi gofal, fel glanhawyr a chogyddion

Dyw hi ddim yn deg nad ydy Llywodraeth Cymru yn talu £1,000 o fonws i weithwyr mewn ceginau a glanhawyr mewn cartrefi gofal, fel y mae gofalwyr yn ei gael.

Dyna ddywed gweithwyr a gwleidyddion wrth Newyddion S4C, wrth alw ar y llywodraeth i dalu'r arian i bawb sy'n gweithio mewn cartrefi gofal.

Dywed y llywodraeth fod gweithwyr ategol wedi cael taliadau ychwanegol yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn talu £1,000 o fonws o fis Ebrill ymlaen i 53,000 o ofalwyr mewn cartrefi gofal a'r rhai sy'n rhoi gofal cartref.

Bonws ydy hwn i geisio cadw a denu mwy i'r proffesiwn.

Ond ni fydd glanhawyr a gweithwyr cegin mewn cartrefi gofal yn cael y bonws yma.

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd pob aelod o staff yng nghartref gofal Plas Hafan yn Nefyn yn derbyn y bonws o £1,000

Mae nifer sy'n gweithio yn y gegin yng nghartref gofal Plas Hafan yn Nefyn yn anhapus efo'r sefyllfa.

Dywedodd un ohonynt, Bethan Jones: "Gafon ni wybod bod 'na £1,000 i'w gael gan y llywodraeth i bawb yn y cartref i fod, ac wedyn mi ffeindion ni allan nad oedd gweithwyr y gegin a glanhau yn ei gael o.

"Dwi'n siomedig iawn."

Ychwanegodd un arall sy'n gweithio yno, Dora Williams ei bod yn "anhapus iawn bod nhw'n gwahaniaethu, a dweud y gwir, rhyngom ni a'r genod eraill".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Jones a Dora Williams yn anhapus nad ydyn nhw'n gymwys i dderbyn y bonws

Dywedodd Anwen Jones, sydd hefyd yn gweithio yng nghegin cartref Plas Hafan: "Tydi o ddim am y pres dwi'n teimlo.

"Mae o'n gwneud i ni deimlo yn israddol - tydyn ni ddim cystal â'r bobl eraill sydd yn gweithio yn y cartref. Egwyddor y peth ydy o."

Un arall sy'n gweithio yno ydy Gill Hughes, a ddywedodd ei bod hi "ddim yn hapus o gwbl".

"Dwi'n cymryd balchder yn fy ngwaith. Achos penderfyniad y llywodraeth dwi ddim yn teimlo cystal â fy nghydweithwyr," meddai.

"'Da ni fel staff cegin wedi cael ein gwahaniaethu, er mai un tîm 'da ni fod o fewn y cartref, yn enwedig yng nghyfnod heriol Covid."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anwen Jones a Gill Hughes eu bod yn teimlo'n israddol am nad ydyn nhw'n gymwys am y bonws

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol y cartref gofal: "Trwy gydol y pandemig, mae ein staff gofal, ynghyd â staff ar draws y cyngor wedi cyflawni gwaith diflino i gefnogi pobl mwyaf bregus y sir.

"Ym mis Chwefror eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi eu bwriad i gydnabod cyfraniad staff gofal cymdeithasol ar draws Cymru trwy daliad ychwanegol o £1,000.

"Fel cyngor, byddwn yn gweinyddu'r taliadau i'r staff gofal hynny sy'n gymwys yn unol â chyfarwyddiadau'r llywodraeth. Gallwn gadarnhau y bydd pob aelod staff cymwys yn derbyn y taliad."

'Dydi o ddim yn deg'

Mae 'na gefnogaeth wedi dod i'r staff cegin a glanhau gan berchnogion cartrefi gofal hefyd.

Kim Ombler ydy perchennog a rheolwr cartref Glan Rhos ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, ac mae hi'n aelod o Fforwm Gofal Cymru hefyd.

"Dydi o ddim yn deg iawn. Mae pawb sy'n gweithio yn y cartref yn ddarn o'r tîm, yn edrych ar ôl pawb," meddai.

"Heb un darn o'r tîm fyddan ni ddim yn gweithio."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob aelod o staff yn allweddol yng nghartref gofal Glan Rhos, meddai'r rheolwr Kim Ombler

Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol am weld gweithwyr o'r fath yn cael bonws o £1,000.

Cyfeiriodd y Blaid Lafur ni at ddatganiad gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y datganiad mae staff ategol mewn cartrefi gofal yn "gwneud gwaith gwerthfawr", ac maen nhw "wedi derbyn dau daliad o dros £1,200" dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddangos gwerthfawrogiad o'u gwaith yn ystod y pandemig.

Ychwanegwyd bod y taliad diweddaraf o £1,000 yn wahanol ac yn "canolbwyntio ar y rhai sy'n darparu gofal uniongyrchol" a bod 'na "flaenoriaeth i wella eu termau ac amodau gwaith", yn ogystal â'u cyfleon gyrfa.